Yn gaeth i gyffuriau i ddelio gyda phoen cronig
- Cyhoeddwyd
Ers degawd bellach, mae Rhianydd Newbery yn dioddef o boen annioddefol yn ei chefn.
O ganlyniad, mae hi'n cymryd cyffuriau lladd poen cryf. Fodd bynnag, mae hi bellach yn gaeth i'r cyffuriau yna.
Yma, mae Rhianydd yn sôn am sut beth yw byw gyda phoen, a'i hymgais i fyw, unwaith eto, yn ddi-gyffur.
"Mae'n anodd disgrifio'r boen fi'n gael - yr unig ffordd alla i ddisgrifio fe yw bod e fel vice.
"Mae'n cychwyn wrth y coccyx a mae e'n teithio o fa'na yr holl ffordd lawr y'n nghoes i a mae e, yn ei le gwaetha', o dan yr asgwrn yn y pigwrn. Mae'n cydio gymaint bo' fi methu canolbwyntio ar ddim byd. Dwi methu cerdded, a does 'na ddim byd yn lleddfu fe.
"Does dim byd arall yn digwydd yn fy mywyd i pam fi fel'na, ar wahân i boen. Dwi'm ishe byta, ishe yfed...
"Er bo' fi wedi bod yn trio pwsho'n hun i fynd o'r tŷ - dwi wedi gwisgo, dwi'n mynd allan... a dwi methu cyrraedd y car - a fi'n gwybod ar y pwynt yna bod dim pwynt i fi hyd yn oed trio mynd i unman."
Gwrandewch ar Rhianydd yn adrodd ei stori yn y rhaglen Byw gyda phoen ar BBC Radio Cymru am 17.00 brynhawn Sul 1 Rhagfyr, neu ar BBC Sounds ar ôl y darllediad
'Penderfyniad hawdd'
Mae Rhianydd yn cael cyffuriau lleddfu poen gan y meddyg, ac mae hi wedi dod o hyd i'r cyfuniad o gyffuriau sydd yn ei helpu. Ond mae nifer yn opioids ac yn gyffuriau sydd yn cael eu rheoli oherwydd eu cryfder, ac mae hi'n hawdd iawn mynd yn gaeth iddyn nhw.
Er hyn, i Rhianydd, roedd y penderfyniad i barhau i gymryd y cyffuriau yn un hawdd i'w wneud.
"Y dewis oedd cario 'mlaen i fyw, a chymryd y tabledi, neu peidio cymryd y tabledi, a jest aros adre a pydru - mae'n siŵr 'sen i 'di mynd rownd y twist, 'sen i 'di gyrru'n hunan yn boncyrs.
"So i fi, dyma sy'n cadw fi fynd."
Ar ôl blynyddoedd o'u cymryd, mae Rhianydd nawr methu byw heb y cyffuriau. Os ydi hi'n digwydd rhedeg allan o dabledi, mae hi'n dioddef symptomau ofnadwy.
"Dwi wedi dechrau ar lwybr fel rhyw mini math o cold turkey - 'na'r unig ffordd alla i ddisgrifio fe. Mae e'r peth mwya' annifyr - fyswn i ddim yn dymuno fe ar neb, a dwi wirioneddol yn cydymdeimlo â phobl sy'n trio dod oddi ar gyffurie.
"Ma' hwn yn anodd. Dwi'n oer a dwi'n boeth. Dwi'm ishe byta, yfed, 'neud dim - dwi'n teimlo'n sâl."
'Dwi'n lwcus i fod yma'
Yn 2009 y dechreuodd trafferthion Rhianydd gyda'i chefn, ac mae hi wedi bod i weld nifer o arbenigwyr ers hynny i geisio dod at wraidd y broblem.
Mae hi'n cwestiynu tybed os mai damwain car, ganol yr 80au, sydd ar fai.
"Dwi'n lwcus i fod yma. O'n i allan yn mwynhau noson gyda ffrind a gymron ni tacsi i fynd am gyri hwyr y nos. 'Na'th hi adel fi i dalu'r tacsi, a'th hi mewn i'r restaurant, a nes i byth cyrraedd y restaurant, achos yn y cyfamser ddoth 'na car a'n nharo i tra bo' fi'n croesi'r hewl.
"Dwi ddim yn gneud dim byd yn half measures... Es i fewn drwy ei windscreen car e, ges i'n nhaflu allan a lawr yr hewl rhai llathenni. 'Naethon nhw ffeindio bo' fi 'di cal fracture yn fy mhenglog i a torri coese, briwie a phethe mewnol.
"Fi'n wyndran weithie, ai fa'na 'nath e gychwyn?"
Ond, gan fod yna bron i 25 mlynedd rhwng y ddamwain a'i thrafferthion cefn, mae hi'n anodd gwybod os mai'r ddamwain sydd wir ar fai.
Bywyd normal ar y gweill
Ar ôl degawd o fyw mewn poen a blynyddoedd o gymryd amryw gyffuriau, penderfynodd Rhianydd mai digon oedd digon, a'i bod am gael llawdriniaeth i roi Spinal Cord Stimulator yn ei hasgwrn cefn.
Dyma ddyfais sydd yn ysgogi celloedd madruddyn (marrow) y cefn i dwyllo'r ymennydd i beidio â sylweddoli fod yna boen. Bydd Rhianydd yn medru rheoli'r peiriant ei hun, er mwyn sicrhau fod y boen yn cael ei lleddfu.
Ym mis Medi 2019, aeth i Ysbyty Walton yn Lerpwl i gael llawdriniaeth i roi'r teclyn yn ei chefn.
Mae hi'n ffyddiog y bydd hi nawr yn gallu byw bywyd normal unwaith eto, a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
"Pan ma'r boen ar ei waetha', dwi'n trio'n rili caled i gario 'mlaen i 'neud pethe, ond mae'n amhosib. Dwi wastad yn gorfod cymryd tabled ychwanegol neu mynd i orwedd - a dyna fe, dyw Mam ddim rownd y lle i 'neud pethe.
"Mae mhlant i wedi byw gyda hyn am 10 mlynedd - dwi'n teimlo fel mod i wedi colli mas ar lot o hwyl, er ni wedi cael hwyl - ond hwyl achos mod i'n cymryd cyffurie, a dwi'm ishe byw ar gyffurie ddim mwy.
"Mae'r peiriant yn gweithio - mae'n anhygoel. Mae'r boen yn cychwyn, yna mae e'n mynd. Waw!
"Dwi dal ar y cyffuriau ar hyn o bryd, ond er fydda i byth yn byw yn ddi-boen eto, fydd y stimulator yn cymryd lle cyffurie. Dyna oedd y siwrne 'ma i mi, i gael byw yn ôl yn ddi-gyffur."
"Mae'r daith wedi bod mor hir, mae bod mor agos â hyn at ddiwedd y twnnel yn anhygoel."
Hefyd o ddiddordeb: