Ymosod ar fachgen yn anweddus 'rhwng 10 a 12 gwaith'
- Cyhoeddwyd
![Robert Pugh](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11C8B/production/_107334827_airwales.jpg)
Mae Robert Pugh yn gwadu 13 o gyhuddiadau
Mae rheithgor yn Llys Y Goron Caerdydd wedi clywed bod cyn-hyfforddwr dringo wedi "dangos ffafriaeth" i fachgen yn ei ofal cyn ymosod arno'n rhywiol sawl tro.
Mae Robert Pugh, 75 o Gaerdydd, yn gwadu 13 o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar dri bachgen yng Nghanolfan Storey Arms ym Mannau Brycheiniog yn y 1980au a 1990au.
Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi rhoi "sylw cyson" ac anrhegion i'r bachgen, sydd bellach yn oedolyn, cyn ceisio mynd i'w stafell, cyffwrdd yn ei goesau ac ymestyn am ei fannau preifat.
Dywedodd bod Mr Pugh wedi cyffwrdd ynddo yn amhriodol rhwng 10 a 12 o weithiau, ac wedi ceisio gwneud yr un peth nifer o weithiau yn rhagor.
Yn ôl y bachgen, roedd yn cael ystafell i'w hun yn y ganolfan yn 15 oed ac ymlaen.
Dywedodd bod Mr Pugh, ar yr adegau roedd y bachgen yn ceisio'i wthio ymaith, yn aml yn ei herio gan ddweud: "Beth sydd o'i le? Mae hyn yn normal."
![Storey Arms Centre](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6AA3/production/_103199272_stoiretyarms.jpg)
Canolfan addysg awyr agored Storey Arms ym Mannau Brycheiniog
Aeth y ddau ar daith sgïo "profiad gwaith" dramor ar ben eu hunain pan roedd y bachgen yn 16 oed.
"Ges i fraw pan gerddes i'r stafell a gweld dim ond gwely dwbl," meddai. "Doedd dim dewis ond cysgu ynddo. Ro'n i'n 16 a heb arian i gael llety arall. Rhoddodd ei fraich amdana'i i gyffwrdd fy nghoes a gafael yn fy mannau preifat."
Dywedodd iddo geisio amddiffyn ei hun trwy orwedd ar ymyl y gwely ond roedd "Bob wastad yn fy ngofod personol - unrhyw symudiad a fyswn ni'n cyffwrdd."
'Hollol ddiniwed a naturiol'
Y flwyddyn ganlynol cafodd wahoddiad i aros gyda Mr Pugh yn Yr Alpau, pan roedd pawb arall oedd ar yr un cwrs wedi dychwelyd adref.
Clywodd y rheithgor bod Mr Pugh wedi rhoi alcohol iddo mewn tafarndy, ceisio cyffwrdd ynddo'n anweddus sawl tro wrth iddyn nhw ddychwelyd i'w car a chynnig cyflawni gweithred rhyw ar y bachgen.
Roedd yna ffrae, meddai, wrth iddo adael y car. "Roedd yn mynnu bod yr holl beth yn ddiniwed ac yn hollol naturiol a ddylwn i ddim ei wthio i ffwrdd."
Wedi'r digwyddiad hwnnw, bu'n rhaid i'r ddau rannu pabell am weddill y trip, ond mae'r bachgen yn honni i Mr Pugh geisio cyffwrdd ynddo eto sawl tro wrth iddo gysgu yng nghefn y car pan wnaethon nhw stopio i orffwys ar y ffordd adref.
'Cadw'n dawel tan eleni'
Dywedodd y bachgen i ymddygiad Mr Pugh wella yn y flwyddyn ganlynol, a bod y diffynnydd wedi dweud yn ystod trip arall dramor ei fod "wedi gwneud ymdrech bwriadol" ac â "dim diddordeb mwyach am ei fod yn licio bechgyn 'fengach".
Clywodd y llys nad oedd wedi trafod yr hyn mae'n ei honni â neb tan yn gynharach eleni.
Wrth gael ei groesholi, mynnodd y bachgen ei fod yn dweud y gwir. "Rwy'n berson preifat iawn," meddai.
"Dydw i ddim yn gwneud hyn er lles fy hun. Dyma'r peth cywir i wneud."
Mae Mr Pugh yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.