3 Llun: Lluniau pwysicaf Nia Morais

- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Bardd Plant Cymru, Nia Morais sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.

Cudillero, tref fach yng ngogledd Sbaen
Dyma lun o Cudillero (Cuideiru), tref fach yng ngogledd Sbaen.
Bues i'n byw mewn tref hyfryd o'r enw Avilés yn ystod fy nhrydedd flwyddyn o brifysgol, ac un diwrnod es i ar daith bws i Cudillero ar fy mhen fy hun.
Dringais dŵr dros y dref i gymryd y llun yma, a dim ond wrth ddringo 'nôl lawr sylwais i fod pen y tŵr ar gau i dwristiaid gan fod y grisiau wedi rhydu!
Diwrnod hyfryd a all fod wedi gorffen yn wahanol iawn.

Mamgu Nia yn edrych i lawr o'r balconi
Dyma lun o fy mamgu yn edrych i lawr o'i balconi ym mis Mehefin 2020.
Roeddwn i a fy mrodyr methu ymweld â hi yn ystod y cyfnodau clo, felly aethom ni i eistedd yn yr ardd yn lle.
Rwy'n caru'r llun yma ohoni oherwydd dyna sut roedd hi'n actio bob dydd - fel Ymerodres oedd wedi hen arfer rhoi gorchmynion!

Carreg fedd â rhybudd dirgel - "This grave is not to be opened"
Dyma lun o fedd cymrais i ym Machen Isaf, ger Casnewydd.
Fel awdur, rwy'n ceisio ffeindio ysbrydoliaeth ym mhopeth, a ffeindiais i a fy nhad y bedd yma wrth fynd am dro un diwrnod.
Doeddwn ni byth wedi darganfod pam bod rhybudd mor ddirgel ar y bedd, ond rwy'n sicr y bydda i'n ysgrifennu stori amdano un diwrnod!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024