Dyn wedi marw mewn digwyddiad ar fferm ar Ynys Môn

map Rhydwyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i fferm yn Rhyd-wyn ger Caergybi ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl digwyddiad ar fferm ar Ynys Môn ddydd Mercher.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ardal Rhyd-wyn ger Caergybi am 12:03, yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ar y fferm.

Roedd swyddogion ambiwlans wedi cael eu galw hefyd.

Dywedodd yr heddlu y bu farw dyn a oedd wedi cael anafiadau yn y digwyddiad.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) hefyd yn cydweithio gyda'r heddlu i sefydlu'r amgylchiadau.

'Sioc enfawr i'r gymuned'

Dywedodd AS Ynys Môn, Llinos Medi, ei fod yn "newyddion trist iawn i gymuned Môn".

"Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a'r ffrindiau, yn ogystal â'r gymuned sydd wedi'i heffeithio gan y golled hon. Diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb prydlon. Meddwl amdanoch oll."

Dywedodd y cynghorydd lleol, Llio Angharad Owen: "Hoffwn rannu cydymdeimlad llwyr gyda theulu a ffrindiau'r sawl sydd wedi cael eu heffeithio yn y drychineb yma, sydd yn sioc enfawr i'r gymuned.

"Rwy'n diolch i'r gymuned am barchu sensitifrwydd a difrifoldeb y digwyddiad, rwy'n gwybod bod hwythau yn rhannu cydymdeimlad.

"Mae'n bwysig diolch hefyd i'r gwasanaethau brys am eu hymateb prydlon."

Pynciau cysylltiedig