Teyrnged teulu i fenyw 'caredig a chryf' a gafodd ei saethu

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu menyw fu farw yn dilyn achos o saethu yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddi.

Cafodd Joanne Penney, 40, ei darganfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau tua 18:10 nos Sul, a bu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei bod wedi cael ei saethu yn ei brest.

Cafodd dyn 20 oed o Laneirwg, Caerdydd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Mercher.

Mae chwe pherson bellach wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Cael ei charu'n fawr gan bawb'

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu eu bod wedi eu tristau "yn dilyn colli ein hannwyl Joanne".

"Roedd hi'n ferch, yn fam, yn chwaer ac yn wyres - a oedd yn cael ei charu'n fawr gan bawb oedd yn ei hadnabod.

"Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder, na'i chariad at ei theulu yn mynd yn angof.

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru ac wrth i ni geisio dygymod â'r golled.

"Fe fyddem yn gwerthfrawogi'n fawr pe bai unrhyw un â gwybodaeth yn medru rhannu hynny gyda thîm ymchwilio'r heddlu."

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 18:10 nos Sul yn dilyn adroddiad o saethu yn ardal Green Park, Tonysguboriau.

Cyrhaeddodd hofrennydd yr heddlu yn Nhonysguboriau am 18:30, gan gylchu'r ardal cyn dychwelyd i'w safle yn Sain Tathan.

Mae dyn 42 oed o Donysguboriau a gafodd ei arestio ddydd Sul wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad, ond mae ar fechnïaeth ac yn cael ei holi ymhellach yn dilyn honiad o ymosod.

Dywedodd Heddlu De Cymru brynhawn Mawrth fod pedwar unigolyn arall wedi cael eu harestio yn ardal Heddlu Sir Gaerlŷr nos Lun mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r pedwar - dynes 21 oed a dyn 27 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr, dyn 68 oed o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, a dynes 39 oed o Gaerlŷr - yn parhau yn y ddalfa.

Cafodd gwarant i gadw'r pedwar person a gafodd eu harestio yn Sir Gaerlŷr ei ganiatáu gan ynadon ddydd Mercher, meddai'r llu.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Sarah Jane Davies fod digwyddiadau diweddar yn yr ardal wedi achosi "pryder a braw yn y gymuned".

Pynciau cysylltiedig