Huw Fash: Rhoi ffrogiau priodas yn 'beth hyfryd i'w wneud'

Huw ReesFfynhonnell y llun, Huw Rees
  • Cyhoeddwyd

Gallai fod ambell briodferch ffodus iawn yng Nghymru eleni wrth i berchennog siop briodas roi dwsinau o ffrogiau i siopau elusen yn ei ardal.

Mae ffrog briodas yn gallu costio cannoedd os nad miloedd o bunnoedd, ond mae Huw 'Fash' Rees wedi penderfynu eu rhoi i siopau elusen yn Llandeilo ac i golegau ffasiwn yn ne Cymru.

Bu'n rhaid i Huw i roi'r gorau i'w siop briodas yn Llandeilo ar ôl 16 mlynedd oherwydd problemau iechyd, fel yr esboniodd ar raglen Breakfast ar Radio Wales: "Yn ystod y pedair blynedd diwethaf dwi wedi bod yn dioddef o glefyd yr arennau, dwi nawr ar ddialysis bedair neu bum noson yr wythnos.

"Ac oherwydd bod fi'n cydbwyso hynny, yn amlwg, gyda gyrfa ym myd teledu, daeth yn ormod o lawer i allu rhoi'r amser i redeg y siop.

"Felly mi wnes i'r penderfyniad anodd i gau."

Rhai o ffrogiau Huw yn siop y Groes GochFfynhonnell y llun, Charlotte Walker
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ffrogiau Huw yn siop y Groes Goch

Yn wyneb cyfarwydd ar raglen Prynhawn Da ar S4C, mae'r steilydd wedi gwerthu dipyn o'i stoc mewn sêl yn y siop yn barod: "Dwi ddim eisiau i bobl feddwl mod i'n rhyw sant hynod garedig o Gymru sy'n rhoi ffrogiau drud i bawb!

"Dwi'n gwneud beth dwi'n gallu ac mae'n amser nawr i feddwl yn glir am ble mae'r ffrogiau yma'n mynd i fynd.

"Ac, wrth gwrs, dwi wedi gweithio ar brosiectau gyda cholegau yn ystod y pum neu chwe blynedd diwethaf. Ni wedi rhoi ffrogiau i'r colegau ac maen nhw'n gweithio ar gynaliadwyedd a ffrogiau wedi'u hailgylchu.

"Oherwydd, yn amlwg, mae cynaliadwyedd yn enfawr mewn priodasau gan eich bod yn gwisgo'r ffrog unwaith ac yna mae'n eistedd yn eich cwpwrdd dillad chi. Ac mae'r ffrog yma mwy na thebyg wedi costio £2,000."

Mwy o'r ffrogiau yn y siop elusenFfynhonnell y llun, Charlotte Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o'r ffrogiau yn y siop elusen

Mae'r rhodd wedi achosi dipyn o gyffro ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan fod ffrogiau sy' fel arfer yn costio miloedd o bunnoedd yn gwerthu am cyn lleied a £50 neu £100 yn siopau y Groes Goch a'r West Wales Poundies yn Llandeilo.

Mae siop y Groes Goch wedi creu ardal arbennig o fewn y siop ar gyfer y ffrogiau, fel mae Huw yn esbonio: "Siaradais i â'r merched y siop, dwi'n ffrindiau da iawn gyda nhw a dywedon nhw y bydden nhw'n falch iawn o droi rhan o'r siop yn siop fach i briodferch.

"Ac mae yna siop elusen arall yn Llandeilo o'r enw'r West Wales Poundies. Nawr, mae fy nghi Gruff wedi bod yn gefn i fi trwy dialysis. Mae'n gorwedd ar waelod y gwely ac yn dilyn fi bobman.

"Ac fe ddaeth Gruff o ganolfan achub o'r enw West Wales Poundies. Felly, yn amlwg, rhoddais i ffrogiau iddyn nhw."

Mae'r gymuned wedi cynnig help llaw hefyd yn yr ymdrech i gael gwared ar y stoc o'i siop.

Dywedodd Huw: "Y peth doniol yw ein bod yn cerdded i fyny'r stryd yn cario ffrogiau un ar y tro i'r siopau elusen. Ac roedd gennym ni adeiladwr i mewn yr wythnos hon yn tynnu'r holl reiliau a'r dodrefn i lawr yn y siop ac roedd hyd yn oed yr adeiladwr yn cario ffrogiau i fyny'r ffordd!

"Felly mae'n olygfa eithaf doniol i'w gweld yn Llandeilo y dyddiau hyn. Mae'n beth hyfryd i'w wneud."

Huw yn ei siopFfynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Huw yn ei siop

Pynciau cysylltiedig