Bryn Terfel: Cael brechdan yn y Tŷ Gwyn gyda Clint Eastwood

Llŷr a Lisa fu'n busnesa yn nhŷ Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Pan ddechreuodd canwr ifanc o Bant Glas gystadlu mewn eisteddfodau lleol, prin y byddai wedi dychmygu y byddai un diwrnod yn cyfarfod â rhai o enwau mawr y diwydiant adloniant, gan gynnwys un o'i arwyr o Hollywood.
Ond dyna sydd wedi digwydd i Syr Bryn Terfel, a hynny fwy nag unwaith ers i'w yrfa canu ei droi yn enw byd-enwog.
Bryn yw gwestai cyntaf podlediad newydd BBC Radio Cymru, Ding Dong! gyda Lisa a Llŷr , lle mae'r pâr priod, Lisa Gwilym a Llŷr Evans yn teithio Cymru yn busnesa yn nhai gwahanol selebs, gan glywed ambell i stori ddiddorol.
Ond fydd 'na stori yn curo rhai Syr Bryn am rwbio ysgwyddau gyda rhai o sêr mwya'r byd...?!

Clint Eastwood, brenin y Westerns i Bryn
Picio i'r Tŷ Gwyn am frechdan
Dwi'n cofio canu unwaith yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC, yn y Kennedy Center Awards.
'Nes i dri ohonyn nhw; i Elizabeth Taylor, i James Levine yr arweinydd, ac unwaith i Jack Lemmon, yr actor, lle 'nes i ganu You'll Never Walk Alone o Carousel – cân sy'n cael ei chysylltu efo Lerpwl wrth gwrs, ond cân gan Rogers and Hammerstein ydi hi 'de!
Cyn y cyngerdd, mynd i'r Tŷ Gwyn am de a brechdan.
Wastad pan o'n i'n ifanc, o'n i'n gwylio Westerns efo Dad, ac o'dd Clint Eastwood yn bwysig yn tŷ ni. 'Nes i gerdded i mewn i'r stafell 'ma, a'r person cynta' 'nes i rwbio 'sgwyddau efo fo oedd Clint Eastwood!
O'n i'n syfrdan, ac o fewn eiliadau, o'dd y cyfle 'di mynd... Wrth gwrs, doedd o ddim 'di nghlywed i'n perfformio, doedd o ddim yn gwybod pwy o'n i!
Wedyn, ddaeth y noson lle o'n i'n canu i Mr Lemmon. A wedyn ddaeth yr actorion 'ma i gyd i gefn llwyfan, ac mi ddaeth yr hen Clint yn ôl at Bryn a d'eud "I enjoyed your performance", a ges i ddeud "mae nhad i wrth ei fodd efo'ch gwaith chi, a 'da chi'n gerddor arbennig" achos mae o'n cyfansoddi cerddoriaeth i'w ffilms.
'Swn i'n licio 'sa nhad wedi bod yna i'w gyfarfod o.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Bryn, isn't it?'
Dwi newydd orffen yn Efrog Newydd, a chyfarfod dipyn o'r Cymry 'na; Matthew Rhys yn mynd â ni ar ei gwch, gweld Katherine Jenkins yn ei chartref newydd.
O'n i'n mynd o dŷ Katherine Jenkins ar ôl cinio ac o'n i'n cerdded adra, a 'nes i bwmpio fewn i Laurence Fishburne, o'dd yn The Matrix. O'dd rhaid i mi ddeud "Hello Laurence, how are you?!".
A digwydd bod, o'dd o tu ôl i fi yn un o nosweithiau'r Tŷ Gwyn, ac o'dd o'n cofio! "Bryn, isn't it?!"
"How do you remember that?!"

Dire Straits a Shirley Bassey
Pan o'n i'n ifanc, o'n i ddim yn wybodus am pwy oedd Syr Geraint Evans, Margaret Price neu Gwyneth Jones. O'dd well gen i Dire Straits a Queen ac Elvis. Ac o'dd fy mrawd i'n dilyn Pink Floyd.
Mae'r cysylltiadau dwi 'di cael o fewn ugain mlynedd i hynny... gweithio efo Roger Waters (Pink Floyd) ar opera 'nath o'i hysgrifennu, cyfarfod Mark Knopfler (Dire Straits) mewn noson i Tom Jones...
Dwi'n cofio pan es i weld Dire Straits yn y lle sglefrio rhew yng Nghaer; o'dd rhaid i ti symud am bod dy draed di'n oer!
Mae pethau fel'ma yn dod yn sgil dy waith di. Ti'n cael cynigion campus fel canu yn agoriad Cwpan Rygbi'r Byd; fi a Shirley Bassey yng nghanol y cae yn morio canu.

Bryn a Shirley yn 'morio canu' yn seremoni agoriadol Cwpan Rygbi'r Byd 1999 yn Stadiwm y Mileniwm
A maen nhw'n dod i dy weld di'n perfformio mewn Tŷ Opera, a weithiau ti'n meddwl "pam odda nhw yna?" Fel Sandra Bullock – mae ei rhieni hi'n gantorion opera - a Taylor Swift – mae ei nain hi yn gantores opera.
Mae'r rhan fwyaf yn bobl arbennig o glên ac yn mwynhau be' ti'n ei 'neud.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2023