Pryder am 'anialwch' cymorth cyfreithiol yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau i'r system cymorth cyfreithiol yn golygu bod y sefyllfa mewn rhannau o'r canolbarth yn waeth na bod mewn "anialwch cyngor", yn ôl cyfreithiwr.
Mae Emma Williams yn cefnogi myfyrwyr adran y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddarparu Clinig Cyfraith Teulu i bobl fyddai ddim yn gallu cael cyngor cyfreithiol fel arall.
Mae'r clinig - ynghyd â chlinigau tebyg mewn dwy brifysgol arall yng Nghymru - wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr.
Y diffiniad o "anialwch cyngor" yw lleoliad sydd â dim ond un cwmni sy'n cynnig cymorth cyfreithiol.
'Hanfodol ar gyfer cymunedau'
"Yn Aberystwyth does dim un cwmni yn cynnig y gwasanaeth," meddai Ms Williams, sy'n rhedeg ei chwmni cyfreithiol ei hun yn Rhydaman.
"Felly mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth nag anialwch.
"Mae hynny'n golygu bod clinigau fel yr un yma yn ymddangos mewn lleoliadau ar draws Cymru, ac maen nhw'n hanfodol ar gyfer cymunedau lleol fel ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at gyfiawnder."
Mae Ms Williams yn goruchwylio gwaith myfyrwyr adran y gyfraith sy'n cynnal clinig unwaith bob mis.
Mewn blwyddyn maen nhw'n helpu pobl o ardal eang iawn gan ganolbwyntio'n bennaf ar achosion ysgariad a gwarchodaeth plant.
Dywedodd Olivia Rookes, myfyriwr ail flwyddyn a chydlynydd y clinig: "Does dim llawer o gyfleoedd i gael cyngor yn yr ardal yma - dyna pam mae'r clinig yma mor bwysig.
Mae pobl yn teithio yma o bell, sy'n gallu bod yn ddrud iddyn nhw hefyd ac ry'n ni'n sôn am bobl sydd heb lawer o arian yn y lle cyntaf.
"Ry'n ni'n cael rhai cleientiaid sy'n dod 'nôl atom ni ac ry'n ni'n gweld y newid ynddyn nhw o fod yn fregus iawn yn ystod yr ymweliad cyntaf.
"Ond wedyn ar ôl iddyn nhw fynd i ffwrdd a gweithredu'r cyngor maen nhw wedi'i gael maen nhw'n dod 'nôl ac ry'n ni'n gweld y gwelliant yn eu sefyllfa. Mae hynny'n beth da iawn i brofi."
Galw am ragor o gymorth
Ers 2013 dyw materion fel ysgaru a gwarchodaeth plant ddim yn gymwys am gyllid cymorth cyfreithiol.
Ers y flwyddyn honno hefyd mae cyfreithwyr yn derbyn tâl sefydlog am unrhyw waith cymorth cyfreithiol maen nhw'n ei wneud, sy'n aml yn llai na chost y gwaith.
Effaith hyn yw bod mwy a mwy o gwmnïau yn rhoi'r gorau i gynnig cymorth cyfreithiol.
Dywedodd pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Emyr Lewis: "Mae angen (am y gwasanaeth yma) mewn mwy nag un ffordd - mae adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru wedi tynnu sylw at y diffyg sydd yna oddi mewn i ddarpariaeth cymorth cyfreithiol yn arbennig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol.
"Mae'n rhan o swyddogaeth unrhyw brifysgol i fod yn ymwneud â'i chymuned ac i harneisio dysg er lles cymdeithasol.
"Mae profiad y myfyrwyr yr un mor bwysig - a dyma gyfle go iawn i fyfyrwyr gael y profiad cychwynnol o ddarparu cyngor, a defnyddio eu gwybodaeth i fedru helpu rhywun."
Ynghyd ag adrannau'r gyfraith ym mhrifysgolion Caerdydd a De Cymru - sy'n cynnig gwasanaethau tebyg - mae clinig Prifysgol Aberystwyth ar restr fer ar gyfer gwobr yr elusen LawWorks, sy'n hyrwyddo cymorth cyfreithiol.
Fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ym mhencadlys Cymdeithas y Gyfraith yn Llundain nos Fawrth nesaf.