Llofruddiaeth Cathays: Dyn wedi ei drywanu 21 gwaith
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn ifanc ei drywanu 21 o weithiau yng Nghaerdydd, gan gynnwys unwaith drwy ei galon, yn ôl yr erlynydd mewn achos llofruddiaeth.
Bu farw Fahad Mohamed Nur, 18 ac o Gaerdydd, o'i anafiadau yn dilyn digwyddiad ger gorsaf drenau Cathays ym mis Mehefin.
Mae tri dyn o Gaerdydd, Shafique Shaddad, 25, Mustafa Aldobhani, 21, ac Abdulgalil Aldobhani, 22, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Mr Nur.
Mae'r tri dyn yn gwadu'r cyhuddiadau.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y tri diffynnydd wedi dilyn Mr Nur drwy strydoedd Cathays yn oriau mân 2 Mehefin.
Dywedodd yr erlynydd Michael Jones QC bod Mr Nur wedi dioddef "anafiadau catastroffig" yn y digwyddiad mewn lôn gefn ger yr orsaf ac adeilad Prifysgol Caerdydd.
Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach.
Dywedodd hefyd bod Mr Nur wedi dioddef anafiadau i'w wyneb a'i freichiau - oedd yn awgrymu ei fod wedi ceisio amddiffyn ei hun.
'Ymosodiad parhaus'
Clywodd y llys bod gan Mr Nur cannoedd o bunnoedd o arian wedi cuddio yn ei esgidiau.
Dywedodd Mr Jones: "Dydyn ni ddim yn gwybod os oedd hyn yn ymwneud â chyffuriau, ond nid yw hyn am pam, ond sut y cafodd dyn ifanc ei drywanu i farwolaeth yn ddidrugaredd."
Ychwanegodd: "Cafodd yr hyn ddigwyddodd yn y lôn ei weld gan eraill, wnaeth ddisgrifio'r hyn welson nhw fel ymosodiad parhaus ar Mr Nur."
Clywodd y llys hefyd bod dwy gyllell wedi eu canfod gan blant yn agos i'r lleoliad rhai dyddiau'n ddiweddarach.
Clywodd y rheithgor bod Mustafa Aldobhani wedi honni nad oedd yn y lôn adeg y digwyddiad.
Yn ei ddatganiad i'r heddlu, dywedodd ei fod gyda'r ddau arall ar y noson, ond nad oedd wedi bod ag unrhyw ran yn y farwolaeth.
Yn ei ddatganiad yntau, dywedodd Abdulgalil Aldobhani ei fod wedi gweld Mr Nur, ond mai'r dioddefwr oedd â'r cyllyll. Dywedodd ei fod wedi amddiffyn ei hun.
Roedd Shafique Shaddad wedi dweud ei fod wedi ceisio atal y digwyddiad.
Mae'r achos yn parhau.