Newid gwasanaeth prawf: Pryder mam achos llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mam dyn ifanc a gafodd ei ladd gan ddyn oedd ar brawf wedi trosedd arall, wedi ymuno â galwadau i ail-uno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru.
Pryder Nadine Marshall yw y bydd yna fwy o risg i droseddwyr dorri'r gyfraith eto oni bai bod y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC) yn gwbwl cyfrifol am gynlluniau ailsefydlu troseddwyr.
Cafodd ei mab Conner, 18, ei lofruddio yn 2015 gan ddyn oedd eisoes ar gyfnod prawf.
Mae'r ffordd y mae troseddwyr yn cael eu rheoli yng Nghymru yn newid wythnos nesaf, pan fydd cwmni preifat yn trosglwyddo mwyafrif y gwaith ailsefydlu'n ôl i'r GPC.
Ond mae yna bryderon y bydd rhai cynlluniau'n dal yng ngofal cwmnïau preifat neu elusennau, a bod hynny'n cynyddu'r risg o aildroseddu.
Dywed undeb y swyddogion prawf, Napo, bod sawl adolygiad aildroseddu difrifol wedi pwysleisio'r angen am rannu gwybodaeth fel bod asesiadau risg mor gywir â phosib.
Mae'r undeb yn poeni bod cadw gwaith rheoli troseddwyr a chynlluniau ailsefydlu troseddwyr ar wahân yn amharu ar lif gwybodaeth, sydd yn ei dro yn cynyddu'r risg i'r cyhoedd.
Bu farw Conner Marshall bedwar diwrnod ar ôl cael ei daro gyda pholyn gan David Braddon ym maes carafánau Trecco Bay ym Mhorthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Braddon wedi ei gamgymryd am rywun arall, ac fe gafodd ddedfryd o garchar am oes ar ôl pledio'n euog i lofruddiaeth.
Ond yn y naw mis cyn y llofruddiaeth, roedd Braddon, o Gaerffili, wedi torri amodau cyfnod prawf trwy fethu wyth o gyfarfodydd.
Roedd cwmni preifat - Working Links, sef cwmni cymunedol ailsefydlu Cymru - yn ei oruchwylio ar ôl dedfryd am droseddau cyffuriau ac ymosodiad ar swyddog heddlu.
Gwadodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod modd rhagweld nag atal ymosodiad direswm ar Mr Marshall, ac mae Working Links wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae mam Conner yn cytuno â phryderon Napo y bydd elfennau pwysig o waith y gwasanaeth prawf yn gyfrifoldeb cyrff heb yr arbenigedd angenrheidiol.
Mae angen gwrando ar ddioddefwyr ym marn Nadine Marshall, o'r Barri ym Mro Morgannwg, sy'n poeni am y posibilrwydd o ragor o "achosion dinistriol fel un ni".
"Mae'n mynd yn ôl i atebolrwydd," meddai, "yn arbennig os mae disgwyl i fudiadau trydydd sector i godi'r darnau.
"Mae risg yn beth dros dro. Dyw e ddim yn statig. Dyw beth sy'n risg heddiw ddim o reidrwydd yn risg yfory. Gall bob math o bethau ddigwydd."
O'r herwydd, meddai, mae'n annheg i ddisgwyl i bobl nad sy'n arbenigwyr i adnabod newid ymddygiad, a'r ffactorau all sbarduno newid ymddygiad.
Yn ôl Napo, mae'n fwy anodd gwybod os yw'r risg wedi cynyddu pan fo dau fudiad gwahanol yn delio â throseddwr.
Dan y newidiadau bydd y GPC unwaith eto'n monitro troseddwyr risg isel a chanolig, ynghyd â throseddwyr risg uchel.
Ond cwmnïau cymunedol ailsefydlu neu fudiadau trydydd sector fydd yn trefnu unrhyw waith y mae'n rhaid i droseddwyr ei wneud yn ddi-dâl, neu gyrsiau y mae angen iddyn nhw fynychu - er enghraifft, i fynd i'r afael â dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, ymddygiad treisgar a thrais domestig.
Sefydlwyd cwmnïau preifat i reoli pawb heb law am droseddwyr risg uchel pan gafodd y gwasanaeth ei wahanu pedair blynedd yn ôl, ond roedd yna sawl adroddiad beirniadol a chynnydd yn nifer y bobl ar brawf aeth ymlaen i gyflawni troseddau difrifol.
Daw'r newid i rym yng Nghymru yn y lle cyntaf, ac yn Lloegr yn 2021.
Mewn ymateb i ymgynghoriad yn gynharach eleni, dywedodd Llywodraeth DU bod yna "gefnogaeth eang" i'r cynigion yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017