Llofrudd Conner Marshall yn 'risg isel' o ail-droseddu

  • Cyhoeddwyd
Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad ym maes carafanau Bae Trecco yn 2015
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad ym maes carafanau Bae Trecco yn 2015

Roedd dyn a oedd ar gyfnod prawf pan lofruddiodd fachgen yn ei arddegau yn cael ei ystyried yn risg isel o ail-droseddu.

Bu farw Conner Marshall, 18 o'r Barri, rai diwrnodau wedi ymosodiad ym maes carafanau Bae Trecco, Porthcawl, ym mis Mawrth 2015.

Cyn ail-agor cwest i'w farwolaeth, clywodd gwrandawiad crwner fod David Braddon o dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf pan lofruddiodd Mr Marshall.

Plediodd Braddon, yn euog i lofruddiaeth, gan honni ei fod wedi camgymryd Mr Marshall am rywun arall.

Roedd ar gyfnod prawf am droseddau cyffuriau ac ymosod ar heddwas ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Braddon ei garcharu am oes yn 2015

Clywodd y gwrandawiad fod Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru wedi is-gontractio achos Braddon i asiantaeth arall, am ei fod yn cael ei ystyried fel troseddwr risg isel.

Dywedodd y dirprwy grwner, Nadim Bashir, y byddai cwest yn cael ei gynnal ym Mhontypridd ym mis Rhagfyr, a bod disgwyl iddo bara wythnos.

Mae rhieni Conner, Nadine a Richard Marshall, wedi dweud yn y gorffennol eu bod "angen atebion" ynglŷn â llofruddiaeth eu mab.

Cafodd Braddon, o Gaerffili, ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Caerdydd, ym mis Mehefin 2015, ar ôl pledio'n euog i lofruddiaeth.