Galw am adolygiad o wasanaeth fasgwlar newydd

  • Cyhoeddwyd
glan clwyd

Mae Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru mor bryderus am y penderfyniad i symud y gwasanaeth fasgwlaidd o Ysbyty Gwynedd fel ei fod wedi galw am adolygiad cwbl annibynnol, tebyg i'r ymchwiliad a gynhaliwyd i ward Tawel Fan, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Fis Ebrill eleni mi ddaru Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gau'r adran fasgwlar yn Ysbyty Gwynedd a chanoli'r gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ond oherwydd pryderon staff a chleifion mae'r Cyngor Iechyd Cymuned wedi dechrau casglu tystiolaeth am effaith y penderfyniad er mwyn ei gyflwyno i'r Bwrdd Iechyd.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn mynnu fod y gwasanaeth bellach yn "fodern ac yn addas i'w bwrpas".

Y cefndir

Chwe blynedd yn ôl mi ddaru'r Bwrdd Iechyd ymgynghori ynglŷn â phosibilrwydd symud y gwasanaeth fasgwlar o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ond wnaethon nhw ddim bwrw ymlaen â'r cynllun.

Ddechrau'r flwyddyn hon mi ddaru'r Bwrdd benderfynu gweithredu'r cynllun gan ddibynnu ar yr ymgynghoriad gwreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleanor Burnham o'r Cyngor Iechyd Cymuned yn credu fod y gwasanaeth wedi gwaethygu

Dywed y Cyngor Iechyd Cymunedol fod hynny'n gamgymeriad, ac felly maen nhw rŵan yn trefnu i gasglu barn cleifion a'r cyhoedd yn gyffredinol ynglŷn â'r newid.

Maen nhw'n cynnal cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli heddiw, ac ym Mangor yr wythnos nesa.

Mae Eleanor Burnham yn aelod o'r Cyngor Iechyd Cymunedol a dywedodd: "Mae'r Bwrdd wedi gwaethygu'r gwasanaeth, maen nhw wedi distrywio'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd ac wedi ei ganoli fo yn Ysbyty Glan Clwyd ac wrth wneud hynny maen nhw wedi achosi anhrefn oherwydd mae pobol methu mynd.

"Mae pobl yn bryderus a rŵan rydan ni yn ymgynghori ym Mhwllheli ac ym Mangor ac yn nes ymlaen mi fyddwn ni yn ymgynghori ar draws Gogledd Cymru ym mhob sir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eric Jones yn gobeithio gweld "synnwyr cyffredin" ac adfer y gwasanaeth i Fangor

'Methu deall peth mor ynfyd'

Un sydd wedi cael gofal yn uned fasgwlaidd Ysbyty Gwynedd ac sy'n anhapus fod y gwasanaeth wedi ei symud i Ysbyty Glan Clwyd ydi Eric Jones o Groeslon ger Caernarfon.

"Mi o'n i'n teimlo yn Ysbyty Gwynedd mod i o dan y llawfeddyg gora', yr Athro Dean Williams, ac mi oedd yr adran yn cael ei chydnabod fel yr orau drwy'r byd i gyd," meddai.

"Dwi methu dallt sut mae peth mor ynfyd wedi digwydd, pan mae gynnoch chi ddyn sydd yn fyd-enwog yn y maes yma yn dweud wrthyn nhw 'peidiwch â mynd i Glan Clwyd neu dwi'n eich gadael chi', ac mae'n well gennyn nhw fynd i Glan Clwyd a gadael y professor ar ei ben ei hun ym Mangor.

"Does gen i ddim calon i fynd i Glan Clwyd mwy na llawer o bobol eraill, a gobeithio gwnaiff synnwyr cyffredin fodoli a dod â'r adran yn ôl i Fangor."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bethan Russell Williams ymddiswyddo o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel protest

Pan wnaed y penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd i gau'r adran yn Ysbyty Gwynedd a symud y gwasanaeth i Ysbyty Glan Clwyd mi benderfynodd Bethan Russell Williams ymddiswyddo o'r Bwrdd Iechyd fel protest.

Mae hi'n cytuno hefo galwad Geoff Ryall-Harvey, o'r Cyngor Iechyd Cymuned, fod angen adolygiad cwbwl annibynnol i edrych ar oblygiadau'r penderfyniad.

"Mae angen arolwg a hwnnw'n arolwg annibynnol, nid yn cael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd," meddai.

"Mae'n bwysig bod yna ddim 'whitewash' yn digwydd. Mae angen bod yn onest ynglŷn â beth sydd wedi digwydd, beth oedd tu ôl i'r rhesymau dros ganoli'r gwasanaeth yn Glan Clwyd ac mae angen bod yn onest ynglŷn â beth ydi'r canlyniadau i gleifion rŵan.

"Mae poblogaeth y Gogledd Orllewin yn haeddu gwasanaeth i'r un safon, yr un lefel a'r un raddfa â phobl eraill."

Mewn datganiad dywed y Bwrdd Iechyd eu bod wedi gwario £2.3 miliwn ar theatr lawfeddygol newydd a'u bod wedi llwyddo i gyflogi saith ymgynghorydd o'r newydd.

Mi fydd y bwrdd yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd llefarydd na fu unrhyw ddigwyddiadau difrifol o ganlyniad i ganoli'r gwasanaeth.