Methiant systemig yn ffactor ym marwolaeth carcharor

  • Cyhoeddwyd
Luke JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae cwest i achos y carcharor cyntaf i farw yng Ngharchar Y Berwyn, Wrecsam wedi dyfarnu bod methiant systemig i atal cyffuriau rhag cyrraedd y safle wedi cyfrannu at y farwolaeth.

Roedd Luke Morris Jones, 22 o Flaenau Ffestiniog, wedi cymryd y cyffur synthetig, Spice cyn cael ei ddarganfod yn ddisymwth yn ei gell yn 2018.

Dywedodd y crwner John Gittins ei fod am ddanfon adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gan fynegi pryder bod hi'n dal yn ymddangos bod cyffuriau'n cyrraedd dynion yn y carchar.

Penderfynodd y rheithgor bod y farwolaeth "yn gysylltiedig â chyffuriau ble roedd methiant systemig yn systemau Carchar Y Berwyn o ran atal cyffuriau rhag cyrraedd wedi cyfrannu".

'Aneffeithlon'

Nododd y rheithgor hefyd: "Roedd Carchar Ei Mawrhydi Y Berwyn yn ymwybodol o aneffeithlonrwydd y system ac roedd camau lliniaru annigonol mewn grym tra bo'r sefyllfa'n cael ei datrys."

Dywedodd Mr Gittins "bod gwaith da yn mynd rhagddo" yn y carchar, ond bod angen rhagor o weithredu.

Ychwanegodd bod cyffuriau "yn broblem anferthol" ym mhob un o garchardai'r DU ond "yn broblem na allen ni roi'r gorau i geisio'i datrys".

Carchar BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Luke Morris Jones dros flwyddyn wedi i Garchar Y Berwyn ddechrau derbyn carcharorion

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod Mr Jones wedi cael ei ganfod yn ei gell gyda chynfas gwely o amgylch ei wddf yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.

Roedd wedi dweud wrth staff y dylen nhw fod wedi "gadael iddo farw", ac roedd wedi ei roi dan wyliadwriaeth gyson.

Ond cafodd lefel yr oruchwyliaeth ei leihau i bedair gwaith bob awr ddiwrnod cyn iddo farw.

Roedd wedi trafod y posibilrwydd o symud o adain Alaw i adain Bala ble byddai'n fwy anodd iddo gael gafael ar Spice, cyn newid ei feddwl.

Cafodd ei gofnodi'n farw ar ôl cael ei gludo o'r carchar i Ysbyty Maelor Wrecsam ar 31 Mawrth 2018.

Roedd Mr Jones yn treulio dedfryd bedair blynedd yn y carchar am ladrata ac roedd i fod i gael ei ryddhau ym Medi 2018.