Rheolwr pêl-droed o Wrecsam yn ennill gwobr Arwr Tawel y BBC
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed o Wrecsam wedi ennill gwobr Arwr Tawel BBC Cymru eleni.
Fe dderbyniodd Delwyn Derrick, sy'n rheolwr gyda CPD Bellevue yn Wrecsam, glod am ei waith o ddod â phobl at ei gilydd drwy bêl-droed.
Mae Arwr Tawel BBC Cymru Wales yn rhan o ymdrech ledled y DU i ddod o hyd i wirfoddolwr sydd wedi gwneud gwahaniaeth o fewn byd y campau.
Fe gafodd y wobr ei chyflwyno i Mr Derrick gan gyn-asgellwr pêl-droed Cymru, Manchester United a Wrecsam, Mickey Thomas a ddaeth i un o sesiynau hyfforddi'r clwb.
Cafodd Mr Derrick ei enwebu am y wobr gan chwaraewyr Bellevue a'i wraig, Sam, a esboniodd sut mae'n gweithio i helpu'r chwaraewyr ar y cae pêl-droed ac oddi arno.
Cafodd CPD Bellevue ei sefydlu gan Mr Derrick yn 2016 er mwyn dod â mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches at ei gilydd i wneud ffrindiau newydd yn eu cymunedau newydd.
Dair blynedd yn ddiweddarach mae'r tîm, sy'n cynnwys chwaraewyr o wledydd ar draws y byd, wedi cael sawl llwyddiant.
Dywedodd Sam Derrick: "Mae Delwyn wedi dod yn llysgennad answyddogol dros gydlyniant cymunedol a rhyngweithio cymdeithasol.
"Fe wnaeth y clwb ehangu'n gyflym iawn - o weithio yn y gymuned dramor yn unig i ddechrau, i weithio gyda phobl leol o gefndiroedd anodd - oherwydd bod Delwyn yn teimlo ei fod yn gallu gwneud rhywbeth mwy na thîm pêl-droed."
Dywedodd un o chwaraewyr y clwb: "Rydw i'n geisydd lloches yn y wlad yma ac rydw i wedi bod yn rhan o deulu Bellevue am ychydig o fisoedd erbyn hyn.
"Rydw i wedi dod o hyd i gyfeillgarwch ac rydw i'n cael fy nghefnogi gan fy nghyd-chwaraewyr, a gan Delwyn yn enwedig, sydd wedi bod yn hollbwysig o ran fy helpu i integreiddio yn y gymuned."
Bydd Delwyn yn derbyn y wobr yn swyddogol yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru ddydd Mawrth 10 Rhagfyr yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019