Gwobr Arwr Tawel 2020: Telerau ac amodau ac hysbysiad preifatrwydd
- Cyhoeddwyd
Gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC 2020 - Telerau ac Amodau ac hysbysiad preifatrwydd
Adran Un - Gwobr Arwr Tawel
1. Mae unrhyw un sy'n byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) sy'n 16 oed neu'n hŷn ar 1 Ionawr 2020 yn gymwys i gael ei enwebu, ac eithrio enillwyr blaenorol Gwobrau Arwr Tawel Get Inspired y BBC, gweithwyr y BBC neu Grŵp y BBC neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r Gwobrau, ynghyd â'u perthnasau agos.
Bydd angen caniatâd rhieni ar rai dan 18 oed sy'n cael eu henwebu. Gellir gofyn am brawf oedran, manylion adnabod, pa mor gymwys yw rhywun a chaniatâd rhieni (lle bo hynny'n berthnasol).
2. Mae'n rhaid i'r enwebai:
(i) naill ai fod yn unigolyn neu'n ddim mwy na dau unigolyn sy'n ymwneud â'r un gweithgaredd;
(ii) helpu amaturiaid i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol neu chwaraeon (ac mae'n rhaid i'r gweithgaredd corfforol neu'r chwaraeon fod â chorff llywodraethol cydnabyddedig). Gweler y rhestr yma, dolen allanol.
(iii) cynnig cymorth nad yw fel arfer yn rhan o'u gwaith neu fel arfer yn digwydd yn eu man gwaith;
(iv) helpu'n wirfoddol heb unrhyw wobr ariannol;
(v) bod yn gysylltiedig ag ymdrechion chwaraeon yn flaenaf; os yw'r gweithgaredd yn arwain at godi arian, ni ddylai'r sawl sy'n cael eu henwebu fod yn gysylltiedig gydag elusen sy'n elwa o hynny;
(vi) haeddu Gwobr y BBC ym marn y sawl sy'n enwebu;
(vii) peidio â dwyn anfri ar y BBC (yn ôl disgresiwn y BBC); a
(viii) neu, lle y bo'n berthnasol, rhaid i'w rieni fod wedi rhoi eu caniatâd iddo gael ei enwebu.
3. Gellir cyflwyno enwebiadau:
Drwy'r ffurflen arlein ar ffurf ysgrifenedig neu ffeil fideo.
Neu drwy lawrlwytho'r ffurflen yma, dolen allanol, ei llenwi a'i hanfon dros e-bost i arwrtawel@bbc.co.uk, dolen allanol.
Derbynnir enwebiadau o ddydd Mawrth 22 Medi 2020 ac mae'n rhaid eu derbyn erbyn 23:59 (amser y DU) ddydd Sul 25 Hydref 2020 fan bellaf.
Mae hyd pob enwebiad wedi'i gapio.
Os bydd y fideo yn fwy na 2 funud, yna dim ond y 2 funud cyntaf fydd yn cael ei asesu. Ar gyfer enwebiadau ysgrifenedig (ar-lein neu ar ffurf e-bost), dim ond y 800 gair cyntaf fydd yn cael ei asesu.
4. Dim ond un enwebiad a ganiateir fesul unigolyn, a dylai fod ar ffurflen swyddogol y BBC (wedi'i llwytho i lawr neu ar-lein). Dylai pobl sy'n enwebu ddatgan unrhyw berthynas broffesiynol neu bersonol gyda'r unigolyn neu'r unigolion a enwebir.
5. Bydd y BBC yn penodi cynrychiolydd o bob un o'i 12 rhanbarth yn Lloegr ynghyd â'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a fydd i gyd yn llunio rhestr fer o ddim mwy na 10 enwebai ar gyfer eu panel pleidleisio rhanbarthol.
Dyma'r meini prawf ar gyfer llunio'r rhestr fer:
(i) Yr effaith maen nhw wedi ei gael ar unigolion a/neu eu cymuned leol;
(ii) Yr effaith maen nhw wedi ei gael ar gymunedau ar lefel ranbarthol/cenedlaethol y tu hwnt i'w cymuned leol;
(iii) Maint cyfraniad y sawl sydd wedi'i henwebu ar lawr gwlad yn y gamp neu weithgaredd corffodol;
(iv) Aberth bersonol ac ymrwymiad;
(v) Maint cyfraniad y person i bobl eraill sydd ddim yn rhan o'r gamp neu weithgaredd corfforol;
(vi) Bydd ymdrechion codi arian yn cael eu hystyried, ond nid yn cael eu gwobrwyo oni bai bod cysylltiad uniongyrchol gyda'r gwaith cymunedol;
Bydd gweithredoedd sy'n gymwys o ran meini prawf (i) - (v) yn cael eu hystyried yn bennaf ar sail y 12 mis blaenorol.
6. Bydd paneli beirniadu rhanbarthol sy'n cynnwys staff y BBC ac aelodau nad ydynt yn aelodau o'r BBC yn cwrdd i ddewis Gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC ar gyfer eu hardal eu hunain o blith y rhai sydd ar y rhestr fer ac yn seiliedig ar y meini prawf uchod. Daw'r 15 enillydd rhanbarthol yn gymwys ar gyfer Gwobr gyffredinol Arwr Tawel Get Inspired y BBC 2020. Bydd 12 enwebiad rhanbarthol Lloegr yn cael eu cwtogi i bedwar ac ymuno gydag enillwyr cenedlaethol Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i'r rownd olaf o farnu.
7. Gan ddilyn arferion safonol y diwydiant, bydd y BBC yn archwilio cefndir y rheini sydd ar y rhestr fer ac yn gofyn i'r bobl hynny ddatgelu gwybodaeth sy'n berthnasol i unrhyw euogfarnau troseddol heb ddod i ben neu gamau gweithredu neu euogfarnau sy'n aros am ddedfryd. Bydd y BBC yn cael caniatâd y bobl hynny sydd ar y rhestr fer cyn i wybodaeth o'r fath gael ei rhoi i'r BBC neu ei phrosesu gan y BBC. Rhaid i'r sawl a enwebwyd ac sydd wedi rhannu'r wybodaeth yma ddiweddaru'r BBC am unryw newidiadau tan i'r enillydd gael ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth yma yn gwbl gyfrinachol yn unol â pholisi preifatrwydd y BBC.
9. Yna, bydd panel beirniadu cenedlaethol yn cwrdd i ddewis enillydd cyffredinol o blith y saith yn y rownd derfynol yn seiliedig ar y meini prawf uchod, unrhyw ddogfennau ategol a ffilm fer gan y BBC am bob un ohonynt. Y bwriad yw y bydd y panel yn cynnwys cynrychiolwyr o'r BBC, ffigyrau blaenllaw ym myd chwaraeon ac un o enillwyr blaenorol Arwr Tawel y BBC, yn dibynnu ar bwy sydd ar gael. Bydd gwiriwr annibynnol yn goruchwylio'r broses feirniadu.
10. Cyhoeddir yr enillydd cyffredinol yn fyw ar raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2020 BBC One, sydd i fod i gael ei darlledu ddydd Sul 20 Rhagfyr. Bydd gwahoddiad i bob enillydd rhanbarthol a gwestai o'u dewis fod yn bresennol.
11. Mae penderfyniad y beirniaid ynghylch yr enillydd yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu'n digwydd mewn perthynas â'r gwobrau.
12. Bydd yr enillwyr rhanbarthol yn cael tlws rhanbarthol Gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC 2020 ac fe fydd yr enillydd cenedlaethol yn cael tlws cenedlaethol Gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC 2020. Nid oes dewis ariannol yn lle'r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo'r wobr o dan unrhyw amgylchiadau.
13. Mae'n rhaid i bob enillydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gwobrwyo os oes angen.
14. Mae'r BBC yn cadw'r hawl i:
(i) newid yr amseroedd agor a chau ar gyfer enwebiadau a newid dyddiad cyhoeddi'r gwobrau;
(ii) anghymwyso unrhyw enwebai sy'n torri'r rheolau neu sydd wedi gweithredu'n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd; a/neu
(iii) canslo neu amrywio'r gwobrau neu unrhyw un o'r prosesau neu'r meini prawf dethol, ar unrhyw adeg, os yw o'r farn lwyr ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny, neu os yw amgylchiadau y tu allan i'w reolaeth yn codi.
15. Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru'n briodol.
16. Tybir y bydd y sawl sy'n enwebu a'r enwebeion wedi derbyn y rheolau hyn ac wedi cytuno i ymrwymo iddynt.
Adran Dau - Arwr Tawel Ifanc BBC
Mae'r Termau ac Amodau fel yn Adran Un heblaw fel a ganlyn.
17. Enwir y wobr ar ôl Syr Captain Tom Moore fel cydnabyddiaeth o'i ymdrechion a'r effaith ar godi arian drwy chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Gwobr Arwr Tawel Ifanc Capten Tom.
18. Mae unrhyw un sy'n byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) sydd o dan 16 oed ar 1 Ionawr 2020 yn gymwys i gael ei enwebu, ac eithrio gweithwyr y BBC neu Grŵp y BBC neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r Gwobrau, ynghyd â'u perthnasau agos. Bydd angen caniatâd rhieni ar rai sy'n cael eu henwebu. Bydd gofyn am brawf oedran, manylion adnabod, pa mor gymwys yw rhywun a chaniatâd rhieni.
19. Gofynion enwebiadau yn unol ag Adran Un Paragraff 2 uchod, heblaw (viii); gall enwebiadau gael eu gwneud gan bobl dros 13 oed. Os yw'r person sy'n enwebu rhwng 13-17 oed, rhaid i'r enwebiad gael ei eilio gan riant neu ofalwr yr enwebydd. Ni all pobl o dan 13 oed enwebu.
20. Mae'r cyfnod enwebu fel yn Adran Un, Paragraffau 3 a 4 uchod.
21. Bydd y BBC yn penodi panel pleidleisio cenedlaethol. Dim ond un rhestr fer fydd yn cael ei llunio, ac ni fydd elfen rhanbarthol. Y meini prawf i'r rhestr fer fydd:
(i) Aberth bersonol neu ymrwymiad gan y sawl sydd wedi'u henwebu.
(ii) Bydd ymdrechion codi arian yn cael eu hystyried, ond yn cael eu gwobrwyo ar sail yr effaith ar y gymuned neu ddylanwad ar eraill i ddechrau ymdrechion chwaraeon ac nid ar faint o arian o godwyd.
(iii) Yr effaith y maen nhw wedi cael ar unigolion a/neu eu cymuned leol;
(iv) Yr effaith y maen nhw wedi cael ar gymunedau ar lefel rhanbarthol/cenedlaethol y tu hwnt i'w cymuned leol;
(v) Maint cyfraniad y sawl a enwebwyd ar chwaraeon neu weithgaredd corfforol ar lawr gwlad;
(vi) Maint cyfraniad y sawl a enwebwyd ar rai sydd ddim yn rhan o chwaraeon neu weithgaredd corfforol.
Bydd gweithgareddau sy'n gymwys i'r meini prawf yn cael eu hystyried ar sail y 12 mis blaenorol.
22. Bydd gofyn i'r sawl a enwebwyd ddatgelu unrhyw fanylion fel yn Adran 1 Paragraff 7 uchod. Bydd staff BBC gyda thrwydded DBS yn gwirio cefndir y rhai ar y rhestr fer yn unig. Bydd rhaid i rieni neu ofalwyr y rhai a enwebwyd arwyddo ffurflen gydsynio er mwyn i'r gwiriadau hynny ddigwydd. Bydd gwybodaeth a ganfyddir neu allai fod wedi ei datgelu gan y bobl eu hunain yn rhan o'r penderfyniad am ddewis enillwyr rhanbarthol a'r enillydd cyfan (bydd hynny'n cael ei benderfynu gan y panel beirniadu yn unig).
23. Bydd panel beirniadu cenedlaethol yn cyfarfod i ddewis yr enillydd yn seiliedig ar y meini prawf uchod, unrhyw ddogfennau cefnogol a ffilm fer gan y BBC am bob un. Y bwriad yw bod y panel yn cynnwys cynrychiolydd o'r BBC a ffigyrau amlwg o fyd y campau. Bydd y broses yn cael ei oruchwylio gan wiriwr annibynnol.
24. Bydd yr enillydd cenedlaethol yr derbyn Gwobr Arwr Tawel Ifanc Capten Tom 2020. Does dim dewis ariannol amgen ac ni all y wobr gael ei gwerthu na'i gyfnewid o dan unrhyw amgylchiadau.
Hysbysiad preifatrwydd
Mae'ch ymddiriedaeth chi yn bwysig iawn i ni. Mae'r BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol chi.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio gwybodaeth o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Beth y byddwn yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Bydd y BBC yn prosesu'r wybodaeth bersonol rydych wedi'i rhoi i ni amdanoch eich hun a'r unigolyn rydych chi wedi'i enwebu am wobr. Bydd yr wybodaeth bersonol y byddwn ni'n ei chasglu yn cynnwys: eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad post; enw'r enwebai, ei rif ffôn, ei gyfeiriad e-bost a'i gyfeiriad post, unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi sy'n dweud pam mae'r enwebai'n haeddu gwobr, a manylion cyswllt rhiant/gwarcheidwad yr enwebai os yw rhwng 16 a 18 oed.
Y BBC yw "rheolydd" yr wybodaeth yma. Mae hyn yn golygu mai'r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio a sut y bydd yn cael ei phrosesu.
Mae gennym fudd cyfreithlon mewn prosesu gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ei darparu i ni: er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnal cystadleuaeth o'r fath ac ystyried yr unigolion sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer ein gwobr Arwr Tawel Get Inspired, yn ogystal â llunio rhestr fer gychwynnol o ymgeiswyr.
Rydym wedi ystyried yr effaith arnoch chi yn ofalus ac ni fyddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol lle bo'r effaith yn fwy na'r buddiannau i ni. Rydym wedi cyfyngu'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu i'r wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y gystadleuaeth hon.
Byddwn yn adolygu'r ceisiadau ac yn llunio rhestr fer gychwynnol. Byddwn yn cysylltu â'r enwebai a'i riant / gwarcheidwad (os yw'r enwebai rhwng 16 a 18 oed) gan ddefnyddio'r manylion cyswllt rydych chi wedi'u darparu i ni. Byddwn yn datgelu enw'r enwebwr i'r enwebai wrth gysylltu.
Byddwn hefyd yn cael caniatâd yr enwebai, neu ei riant/gwarcheidwad (fel sy'n berthnasol), i gynnal archwiliadau cefndir ac i roi gwybodaeth i'r BBC sy'n ymwneud ag unrhyw euogfarnau troseddol heb ddod i ben neu gamau gweithredu neu euogfarnau sy'n aros am ddedfryd. Dim ond os byddant yn cymeradwyo'r enwebiad y byddwn ni'n parhau â hynny.
Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Byddwn yn cadw eich data personol am hyd at 90 diwrnod ar ôl cyhoeddi enw'r enillydd. Bydd y BBC yn cadw data personol yr enillydd am 2 flynedd at ddibenion archwilio a rheoleiddio.
Rhannu eich gwybodaeth
Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag aelodau o staff y BBC. Caiff y ffurflen gais ar-lein ei lletya a'i darparu gan gyflenwr trydydd parti ar ran y BBC. Os bydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer, bydd yn cael ei rannu â phanel o feirniaid.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut mae'r BBC yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, neu os ydych yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC. Yno hefyd, cewch ragor o wybodaeth am sut mae'r BBC yn prosesu'ch gwybodaeth a sut gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r BBC.
Os byddwch yn cyflwyno cwyn i'r BBC am y ffordd y gwnaeth ddelio â'ch gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i gwyno wrth awdurdod goruchwylio.
Yn y DU, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â'r Swyddfa, dolen allanol yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019