Agor pleidlais Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2019
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyfnod pleidleisio i ddewis pwy fydd yn derbyn gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2019 wedi dechrau.
Hollie Arnold, Elinor Barker, Menna Fitzpatrick, Sabrina Fortune, Alun Wyn Jones, Jade Jones, Hannah Mills a Lauren Price yw'r wyth sydd ar y rhestr fer.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi i'r person chwaraeon sydd wedi cipio dychymyg y cyhoedd fwyaf yn ystod 2019.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 10 Rhagfyr, a hynny'n dilyn pleidlais gyhoeddus.
Mae modd pleidleisio ar y ffôn neu ar-lein, a bydd y bleidlais yn cau am 18:00 ar 8 Rhagfyr.
Y seiclwr Geraint Thomas oedd yn fuddugol y llynedd.
Mae rhai o'r enwau mawr i ennill y wobr yn y gorffennol yn cynnwys Joe Calzaghe, Ian Woosnam a Tanni Grey-Thompson.
Cafodd y rhestr fer ei dewis gan banel o arbenigwyr - y cadeirydd Nigel Walker, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Nathan Blake, Carolyn Hitt a Brian Davies.

Y rhestr fer:
Hollie Arnold (Para-athletau)

Fe wnaeth Arnold ennill pencampwriaeth y byd am y pedwerydd tro yn olynol ym Mhencampwriaethau Para-Athletau'r Byd yn Dubai. Llwyddodd osod record Ewropeaidd newydd yn taflu'r waywffon gyda phellter o 44.73m er mwyn amddiffyn ei thlws.

Elinor Barker (Seiclo)

Llwyddodd Barker i ennill medalau aur ac arian ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, cyn dilyn hynny gydag aur ac arian arall yng Nghwpan y Byd ar y trac.

Menna Fitzpatrick (Para-sgïo)

Fe wnaeth Fitzpatrick a'i thywysydd Jennifer Kehoe ennill pum medal ym Mhencampwriaethau Para-Sgïo'r Byd - dwy aur, dwy arian ac un efydd - gan hefyd lwyddo i fod y sgiwyr cyntaf o Brydain i ennill tlysau mewn Gemau Paralympaidd a Phencampwriaethau'r Byd.

Sabrina Fortune (Para-athetau)

Llwyddodd Fortune i ennill aur yn y taflu pwysau ym Mhencampwriaethau Para-Athletau'r Byd yn Dubai, gan daflu pellter gwell nag erioed yn ei hymgais olaf i ennill.

Alun Wyn Jones (Rygbi'r undeb)

Jones oedd capten y garfan enillodd y Gamp Lawn eleni, gan gael ei enwi'n chwaraewr y gystadleuaeth hefyd. Fe arweiniodd Cymru at y rownd gynderfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd hefyd, ac mae ganddo bellach 143 o gapiau dros Gymru a'r Llewod.

Jade Jones (Taekwondo)

Roedd Jones yn fuddugol ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd am y tro cyntaf ym mis Mai - yr unig brif bencampwriaeth doedd hi erioed wedi'i hennill.

Hannah Mills (Hwylio)

Llwyddodd Mills a'i phartner Eilidh McIntyre i ennill aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Japan, yn rasio yn yr un man ag y byddan nhw'n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020.

Lauren Price (Bocsio)

Price yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i fod yn Bencampwr Byd yn dilyn ei buddugoliaeth yn y categori 69-75 cilogram yn Rwsia eleni.

Bydd y gwobrau eraill ar y noson yn cynnwys:
Hyfforddwr y Flwyddyn
Tîm y Flwyddyn
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
Gwobr Person Ifanc Ysbrydoledig
Sefydliad y Flwyddyn
Arwr Tawel BBC Cymru
Does dim cysylltiad rhwng y wobr hon a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y DU - ar gyfer Cymru'n unig mae'r wobr hon.