Gwahoddiad i blant a phobl ifanc gael eu sginio am TB

  • Cyhoeddwyd
Ysgyfaint wedi'i heffeithio gan TBFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ysgyfaint wedi'i heffeithio gan TB

Mae rhaglen sgrinio gymunedol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei hymestyn i gynnwys plant a phobl ifanc mewn ardal lle bu farw un person yn sgil achosion o'r clefyd twbercwlosis (TB).

Cafodd tua 80 o bobl yn ardal Llwynhendy, Llanelli oedd wedi dod i gyswllt gyda phobl â'r afiechyd eu gwahodd i sesiynau sgrinio ym mis Mehefin.

Hefyd roedd yna wahoddiad i bobl allai fod wedi dod i gysylltiad â'r clefyd yn nhafarndy'r Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 i gael prawf.

Nawr mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn y cynnig i blant a phobl ifanc allai fod wedi dod i gysylltiad â'r clefyd mewn lleoliadau penodol yn y gymuned leol.

Yn ogystal maen nhw'n annog "unigolion o bob oed sydd wedi bod yn yr un ystafell â rhywun sydd ag achos o TB actif, o fewn pedwar mis cyn i'r unigolyn â TB gael diagnosis a thriniaeth" gysylltu â nhw.

Maen nhw hefyd eisiau clywed gan unrhyw un sydd heb eu sgrinio hyd yma wnaeth gweithio neu yn y Joiners Arms neu ymweld â'r dafarn gyda theulu neu ffrindiau rhwng 2005 a 2018.

Gall yr unigolion yma fod yn bobl "nad ydynt wedi cael eu hadnabod cyn hyn fel rhywun sydd â chysylltiad â rhywun ag achos o TB actif".

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Pobl allai fod wedi dod i gysylltiad â TB yn nhafarn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 sy'n cael eu hannog i gael prawf

Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Er nad ydyn ni wedi cyhoeddi galwad benodol i blant ddod i gael eu sgrinio o'r blaen, rydyn ni wedi sgrinio tua 200 o blant fel rhan o'r ymarfer hwn yn barod.

"Mae nifer bychan ond arwyddocaol o achosion o haint TB cudd wedi'i ganfod yn y plant hyn, felly rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni'n sgrinio plant eraill y gallai'r haint hwn fod wedi effeithio arnyn nhw yn yr ardal hefyd."

Proses 'gyflym a rhwydd'

Mae gofyn i rieni neu ofalwyr ffonio llinell gyswllt pwrpasol cyn 13 Rhagfyr i holi a yw eu plant yn gymwys i gael eu sgrinio.

Rhif y llinell gyswllt - sydd ar agor rhwng 10:00 a 16:00 yn ystod yr wythnos o ddydd Mawrth, 3 Rhagfyr tan ddydd Gwener, 13 Rhagfyr - yw 02920 827 627.

Bydd y sgrinio ar gyfer plant a phobl ifanc cymwys yn cychwyn cyn y Nadolig ac yn para tan ddechrau 2020.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod "yr adeg yma o'r flwyddyn yn gallu bod yn amser prysur iawn i nifer o bobl" ond bod "ein gwasanaethau'n gweithio'n galed i sicrhau bod y gwaith sgrinio a'r gofal dilynol ar gyfer plant yn broses mor gyflym a rhwydd â phosib".

Yn ôl rheolwyr iechyd, "nid oes unrhyw achos o glefyd TB actif wedi'i ganfod drwy'r ymarfer sgrinio cymunedol hyd yma" ond "mae 204 o achosion o glefyd TB cudd wedi'u canfod".

Maen nhw'n parhau i adolygu'r canfyddiadau er mwyn penderfynu a oes angen unrhyw gamau ychwanegol, ond yn pwysleisio bod TB yn gyflwr "anghyffredin".

Tua 100 o achosion sy'n dod i sylw Iechyd Cyhoeddus Cymru bob blwyddyn.