Cannoedd yn mynd i raglen sgrinio am y diciâu yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Margaret PeglerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Margaret Pegler ym mis Medi'r llynedd

Mae rhaglen sgrinio wedi dechrau yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer pobl allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd y diciâu (TB).

Mae'n dilyn 29 o achosion o'r clefyd yn ardal Llanelli, ac mae un fenyw wedi marw o'r haint.

Bu farw Margaret Pegler, 64 oed o Lwynhendy, bum niwrnod wedi iddi gael gwybod bod y clefyd arni ym mis Medi'r llynedd.

Mae'r rhaglen sgrinio wedi dechrau mewn tafarn sydd wedi ei gysylltu â'r achosion, canolfan iechyd ac ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Cyn 10:00 fore Mawrth, roedd hyd at 100 o bobl yn ciwio yn y glaw i gael eu sgrinio ym Mharc y Scarlets.

Erbyn 14:15 ddydd Mawrth, roedd "cannoedd" o bobl wedi mynd i gael eu sgrinio, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Dywedodd Dr Brendan Mason o ICC: "Mae'r diciâu wedi bod yn bresennol ar lefel isel yn Llwynhendy ers peth amser, a'r nod i ni yw sicrhau fod pawb yn gallu cael triniaeth cyn gynted â phosib fel y gallwn ni rwystro'r haint rhag ymledu ymhellach, a dod â'r clefyd dan reolaeth."

Mae tua 80 o bobl sydd wedi dod i gysylltiad â'r clefyd mewn rhyw fodd wedi derbyn llythyr yn gofyn iddyn nhw fynd i'r sesiynau sgrinio ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff a chwsmeriaid tafarn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 wedi cael cais i gael eu sgrinio

Mae hefyd galwad ychwanegol ar bobl allai fod wedi dod i gysylltiad â'r diciâu fel cwsmer neu aelod o staff tafarn y Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2005 a 2018 i gael eu sgrinio.

Dywedodd perchnogion y dafarn, cwmni SA Brain, ei bod yn "anochel bod nifer o'r rhai sydd wedi eu heffeithio wedi defnyddio'r dafarn ac wedi cymysgu gydag eraill yno".

Mae ymchwiliad i'r achosion o'r diciâu wedi bod yn digwydd ers 2010. Y gobaith nawr yw y bydd y rhaglen sgrinio yn dod â'r achosion i ben.

Y bobl sy'n gymwys i gael eu sgrinio yw:

  • Rhai sy'n derbyn llythyr yn eu gwahodd i gael eu sgrinio;

  • Cwsmeriaid ac aelodau o staff y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 ond sydd heb gael eu hadnabod fel rhywun sydd wedi cael yr haint yn flaenorol;

  • Oedolion sydd wedi bod yn yr un ystafell am fwy nag wyth awr gyda rhywun sydd â'r diciâu, a hynny o fewn pedwar mis i'r person yna gael diagnosis a thriniaeth.

Dywedodd ICC y dylai unrhyw un sy'n ansicr a ydyn nhw angen eu sgrinio neu beidio mynychu un o'r sesiynau i drafod eu hachos gydag aelod o'r staff meddygol.