Apêl sgrinio cwsmeriaid tafarn yn Sir Gâr am TB

  • Cyhoeddwyd
The Joiners ArmsFfynhonnell y llun, Jaggery | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau siarad â phobl allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd TB yn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018

Mae cwsmeriaid tafarn yn Sir Gaerfyrddin allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd twbercwlosis (TB) yn cael eu hannog i gael eu sgrinio.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod un person wedi marw yn sgil achosion o'r clefyd yn ardal Llwynhendy, Llanelli.

Bydd tua 80 o bobl sydd wedi dod i gyswllt gyda phobl â'r afiechyd yn cael eu gwahodd i sesiynau sgrinio ym mis Mehefin.

Yn ogystal mae galwad gan ICC i bobl allai fod wedi dod i gysylltiad â'r clefyd yn nhafarn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 i gael prawf.

Dywedodd llefarydd bod 29 o achosion o TB yn gysylltiedig â'r achos ers 2010.

'Angen dileu'r clefyd o'r ardal'

Mae'r sgrinio yn ymgais gan ICC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i reoli'r clefyd.

Maen nhw'n dweud bod tystiolaeth sy'n awgrymu bod nifer o achosion gweithredol a chudd sydd heb eu canfod hyd yn hyn.

"Mae TB wedi bod yn cylchredeg ar lefel isel yn Llwynhendy ers tro," yn ôl Dr Brendan Mason o ICC.

"Ar ôl monitro'r achos yn Llwynhendy yn ofalus ac ymchwilio iddo am nifer o flynyddoedd, mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai cynnal ymarfer sgrinio cymunedol ar yr adeg hon yw'r peth gorau i'w wneud er mwyn rheoli'r achos hwn ac, yn ddelfrydol, i ddileu'r clefyd o ardal Llwynhendy."

Mae Dr Mason wedi pwysleisio nad ydy'r dafarn ei hun yn peri risg i iechyd y cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Brains, perchnogion tafarn y Joiners Arms, eu bod yn cydweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"O ystyried pwysigrwydd y Joiners Arms yng nghanol cymuned Llwynhendy mae'n anochel y bydd nifer o'r rhai sydd wedi eu heffeithio wedi defnyddio'r dafarn ac wedi cymysgu gydag eraill oedd yna ar y pryd.

"Ynghyd â lleoliadau eraill yn yr ardal rydym yn agor ein drysau fel canolfan sgrinio yr wythnos nesaf."

Beth ydy twbercwlosis?

Mae TB yn haint a ganfyddir yn yr ysgyfaint fel arfer, ond fe all effeithio ar unrhyw ran o'r corff.

Gall unrhyw un ddal TB drwy anadlu'r bacteria mewn defnynnau bach iawn sy'n cael eu tisian neu eu pesychu gan rywun â TB yn ei ysgyfaint.

Symptom mwyaf cyffredin TB yw peswch parhaus am fwy na thair wythnos, gyda phoer sy'n gallu cynnwys gwaed weithiau.

Gall symptomau eraill gynnwys colli pwysau, tymheredd uchel, a chwysu, yn enwedig yn ystod y nos.

Y bobl a fydd yn cael eu sgrinio

  • Pobl sydd wedi cael llythyr yn eu gwahodd i fynd i gael eu sgrinio;

  • Pobl sydd wedi gweithio neu wedi bod yn gwsmeriaid tafarn Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2005 a 2018, nad ydynt wedi'u nodi'n flaenorol fel cyswllt rhywun â TB;

  • Oedolion sydd wedi bod yn yr un ystafell am fwy nag wyth awr gyda rhywun â TB, o fewn pedwar mis cyn i'r person â TB gael diagnosis a thriniaeth.

Lleoliadau

  • Parc y Scarlets - 4 Mehefin 08:00-10:00

  • Joiners Arms - 4 Mehefin 11:30-14:30

  • Canolfan Iechyd Llwynhendy - 4 Mehefin 16:30-20:00

  • Parc y Scarlets - 5 Mehefin 08:00-10:00

  • Canolfan Iechyd Llwynhendy - 5 Mehefin, 11:00-15:00