Yr amgylchedd ar yr agenda wleidyddol yn yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae'r amgylchedd wedi bod yn bwnc llosg yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2019.
Mae'r ymadrodd yna'n arbennig o berthnasol o gofio mai'r her yw ceisio osgoi effeithiau argyfyngus cynhesu byd eang.
Tra bod maniffestos y gorffennol yn aml wedi gwasgu ambell bolisi gwyrdd i hanner tudalen yn y cefn - mae'r addewidion amgylcheddol i'w gweld yn greiddiol i gynlluniau nifer o'r pleidiau erbyn hyn.
Mae pawb yn cystadlu â'i gilydd o ran targedau i blannu coed, cynhyrchu ynni glân a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Ry'n ni wedi gweld hystings penodol yn cael eu trefnu drwy Gymru hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf ar bynciau amgylcheddol, gyda dadl deledu ynglŷn â thaclo newid hinsawdd ar Channel 4.
"Mae'n amlwg bod 'na newid mawr wedi bod," esbonia Dr Rhian Barrance, o sefydliad ymchwil cymdeithasol ac economaidd WISERD Prifysgol Caerdydd.
"A hynny," meddai, "am fod y pwnc wedi dod yn fwy o flaenoriaeth i bleidleiswyr."
"Ry'n ni wedi bod yn edrych ar ganlyniadau holiaduron YouGov - y cwmni polau piniwn - a ddwy flynedd yn ôl doedd yr amgylchedd ddim yn beth mawr o gwbl.
"Llai na 10% o bobl yn dweud ei fod e'n un o'r pethau mwyaf pwysig iddyn nhw, tra bod 27% yn ei gyfri fel un o'i prif bryderon erbyn hyn."
Mae'r cynnydd mewn diddordeb yn amlycach fyth ymysg y to ifanc, gyda 45% o'r bobl rhwng 18-24 mlwydd oed yn cyfri'r amgylchedd fel un o'r tri phwnc sydd fwyaf tebygol o ddylanwadu ar eu pleidlais.
"Brexit sydd dal i fod bwysicaf i bobl sy'n pleidleisio, ond mae gan yr amgylchedd tua'r un statws a'r economi erbyn hyn yn ôl yr holiaduron yma," medd Dr Barrance.
Dim syndod, efallai, yn dilyn blwyddyn pan fod protestiadau gan ddisgyblion ysgol, myfyrwyr ac ymgyrchwyr Gwrthryfel Difodiant yn annog gweithredu cynt ar atal newid hinsawdd wedi llenwi'r penawdau.
Mae unigolion fel Greta Thunberg a sefydliadau fel y Cenhedloedd Unedig wedi hawlio sylw hefyd gyda'u rhybuddion plaen.
Mae ystadegau newydd wedi dangos bod lefelau allyriadau carbon yn dal i gynyddu'n fyd-eang er gwaetha addewidion gan wleidyddion a diwydiannau mawrion i'w lleihau.
"Mae'n dda gweld bod pob plaid yn dweud rhywbeth," yn ôl Dan Rouse, arbenigwraig ar fyd natur o Lanelli sy'n ysgrifennu i nifer o gylchgronau ac yn cyflwyno fideos amgylcheddol i wasanaeth cyfryngau cymdeithasol S4C 'Hansh'.
"Yn y gorffennol os oeddech chi moyn neud rhywbeth am newid hinsawdd a phethau fel byd natur roedd rhaid i chi fynd am y Greens. Ond nawr mae pob parti wedi rhoi rhywbeth ar y ford."
"Mae lot o wyddonwyr wedi bod yn dweud pethau ers blynyddoedd a dim wedi ei wneud. Nawr mae'r gwleidyddion yn gweld bod siawns iddyn nhw ennill votes maen nhw'n dechrau neud pethau."
Tra bod yr amgylchedd yn faes sydd wedi'i ddatganoli i raddau helaeth i Fae Caerdydd, mae digon ym maniffestos y pleidiau yn yr etholiad cyffredinol hwn sy'n berthnasol i Gymru hefyd.
Yn gyntaf - Brexit - gyda'r penderfyniadau ar hynny'n cael eu gwneud yn San Steffan.
Ar hyn o bryd - mae rheoliadau a chyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn cael dylanwad mawr ar amaeth, gwarchod natur ac atal llygredd.
Mae uchelgais y pleidiau o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig yn allweddol hefyd - gyda hynny'n ddibynnol i raddau helaeth ar sut fyddwn ni'n cynhyrchu ynni yn y dyfodol.
Llywodraeth y DU sydd â'r rheolaeth dros brosiectau ynni mawr ar hyn o bryd - felly nhw fyddai'n gallu caniatáu datblygiad ffermydd gwynt mas yn y môr er enghraifft, cefnogi morlynnoedd llanw neu atomfeydd niwclear newydd.
"Mae'r etholiad yma mynd i gael effaith mawr ar beth sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru am ddegawdau i ddod," eglura Arfon Williams, Rheolwr Defnydd Tir elusen RSPB Cymru.
"A San Steffan fydd yn chwarae rhan fawr yn y penderfyniadau - ar bethau fel cyllid, polisïau mwy eang i amddiffyn yr amgylchedd a hefyd sut fyddwn ni'n masnachu a gweddill y byd ar ôl Brexit."
"Mae hyn yn rhywbeth sydd mor bwysig a diolch byth fod pobl nawr yn dechre deall bod angen gwneud rhywbeth i atal newid hinsawdd a gwarchod bywyd gwyllt."
"Mae trafod yn un peth - ond mae'n bwysig ein bod ni'n troi hyn i mewn i'r action iawn, a'r cyllid hefyd i wneud hyn i ddigwydd."
Gallwch chi ddarllen mwy am yr hyn mae bob un o'r pleidiau'n ei gynnig o ran yr amgylchedd fan hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019