Cannoedd yn cysgu allan i geisio taclo digartrefedd

  • Cyhoeddwyd
Cysgu yn y CastellFfynhonnell y llun, Llamau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kay-D Hever ac Linzi Rennick yn casglu arian ar gyfer yr elusen

Fe wnaeth dros 500 o bobl fentro allan yn yr oerfel nos Sadwrn i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd.

Roedd gwirfoddolwyr eisoes wedi casglu £89,000 drwy aros allan drwy'r nos ar dir y tu mewn i gastell Caerdydd.

Roedd y criw yn cael cwmni wynebau cyfarwydd fel yr actor Ruth Jones, Charlotte Church a Richard Parks, yn ogystal â pherfformiadau byw ar lwyfan y tu mewn i'r castell.

Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan elusen Llamau, sy'n rhan o ymgyrch rhyngwladol i geisio taclo digartrefedd.

Un o'r rhai oedd wedi casglu arian ac oedd yn cymryd rhan oedd Ceris Jones, a dywedodd fod codi ymwybyddiaeth yr un mor bwysig.

Ffynhonnell y llun, Llamau
Disgrifiad o’r llun,

Lisa Murphy, 22, Kira Griffiths, 20, a Stacey Proctor, 28, yn barod i gysgu allan yn yr oerfel nos Sadwrn

"Dyw'r cyfan ddim am elusennau yn helpu'r rhai sydd ar y stryd, mae llawer yn aros gyda ffrindiau ac yn syrffio soffas sydd angen help a chefnogaeth.

"Mae'n broblem fawr yng Nghymru a ni ddylai fod yn digwydd ar ein strydoedd," meddai.

Roedd y digwyddiad yn cael ei chynnal mewn 50 dinas ar draws y byd, ac roedd disgwyl i dros 50,000 o bobl gymryd rhan yn rhyngwladol.

Mae hanner yr arian sy'n cael ei gasglu yn helpu gwaith Llamau yng Nghymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr llamau, Jenna Lewis: "Mae'r broblem wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ar ein strydoedd a'r bobl digartref sy'n byw mewn llefydd anniogel.

"Os allwn helpu rhai pobl yn gynt yna fe allwn helpu Cymru ddod yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byw i ddod digartrefedd i ben."