Rhybudd elusen am gynnydd digartrefedd plant dros Dolig

  • Cyhoeddwyd
digartrefedd

Mae ffigyrau gan elusen Shelter Cymru yn awgrymu y bydd dros 1,600 o blant yng Nghymru yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro yng nghyfnod y Nadolig eleni.

Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf gwelwyd cynnydd o 46% yn y nifer o deuluoedd sy'n byw mewn llety Gwely a Brecwast a hosteli.

Mae digartrefedd ieuenctid hefyd yn bryder difrifol gyda dros 3,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed wedi'u gwneud yn ddigartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, medd yr elusen.

Mae Shelter Cymru yn pwysleisio bod prinder dybryd o dai cymdeithasol yn gyrru'r argyfwng tai yng Nghymru.

Maen nhw'n galw ar bob plaid wleidyddol i osod tai a digatrefedd ar frig y rhestr ddomestig.

Disgrifiad o’r llun,

Nid pawb sy'n cael lle mewn llety dros dro neu hostel

Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru: "Mae byw mewn llety dros dro yn eithriadol o anodd i bawb, ond mae'n arbennig o galed ar blant a phobl ifanc.

"Bob dydd mae ein gwasanaethau yn gweithio gyda theuluoedd sy'n byw mewn amodau erchyll, yn aml mewn ystafelloedd sengl am fisoedd ar y tro.

"Mae rhieni yn treulio oriau bob dydd yn teithio i fynd â'u plant i'r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a cheisio coginio pryd o fwyd derbyniol gyda chyfleusterau cyfyng iawn.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y pleidiau gwleidyddol i gyd yn sicrhau bod y system fudd-daliadau yn cefnogi teuluoedd a phobl ifanc.

"Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digartrefedd ac angen tai yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid i hyn barhau."

'Gwneud popeth posib'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymroddi i wneud popeth posib i atal a lliniaru pob math o ddigartrefedd".

Mae'r ymdrechion hynny, medd llefarydd, yn cynnwys "cynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol ansawdd da a fforddiadwy trwy'r buddsoddiad uchaf erioed o £1.7bn".

Ychwanegodd eu bod yn symud at gyrraedd eu targed o ran sicrhau 20,000 o gartrefi fforddiadwy cyn diwedd y Cynulliad presennol.