Gwobr genedlaethol i fardd ifanc o Ferthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Pan gafodd y casgliad cyntaf o gerddi Morgan Owen ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni, go brin ei fod wedi disgwyl ennill gwobr cenedlaethol o fewn chwe mis.
Ond mae 'moroedd/dŵr' - pamffled cysyniadol o gerddi gan y bardd 25 oed o Ferthyr Tudful - wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth trwy Ynysoedd Prydain.
Morgan Owen yw enillydd cyntaf categori newydd am farddoniaeth mewn ieithoedd Celtaidd yng Ngwobrau Barddoniaeth Michael Marks, a noddir gan Ymddiriedolaeth Wordsworth.
Derbyniodd y bardd ei wobr mewn noson arbennig yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, lle anrhydeddwyd awduron, cyhoeddwyr ac artistiaid sy'n ymwneud â chyhoeddi pamffledi barddoniaeth.
Cafodd y gyfrol ei lansio yn ystod Gŵyl Arall yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf eleni.
Beirniaid y wobr Geltaidd oedd Dafydd John Pritchard, David Wheatley ac Aonghas Pàdraig Caimbeul.
Yn 2018, roedd Morgan yn un o'r pedwar bardd fu'n rhan o Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru.
Ers cyhoeddi 'moroedd/dŵr', mae ail gyfrol - Bedwen ar y lloer - hefyd wedi ei chyhoeddi ym mis Hydref.
Yn sgil ei lwyddiant, bydd Morgan yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 a chyfle i dreulio cyfnod fel bardd preswyl mewn digwyddiad yng ngwlad Groeg.
'Tipyn o anrhydedd'
Wedi iddo dderbyn ei wobr, dywedodd Morgan mai "llawenydd deublyg" oedd ennill.
"Yn gyntaf," meddai, "gwefr bur yw gweld fy ngwaith yn cael ei gydnabod yn y fath fodd. Mae'n dipyn o anrhydedd.
"Yn ail, rwy'n falch iawn bod gwasg annibynnol flaengar, sef Cyhoeddiadau'r Stamp, yn derbyn cydnabyddiaeth trwy'r wobr hon hefyd. Dyma goron ar gydweithio dedwydd iawn."
Aeth ymlaen i ganmol y ffaith bod Gwobrau Michael Marks wedi sefydlu'r wobr hon yn benodol ar gyfer barddoniaeth yn yr ieithoedd Celtaidd.
"Dyma gam arloesol a beiddgar, ac rwy'n falch bod ein llenyddiaeth ninnau yn cael ei hanrhydeddu fel hyn."