Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog cael brechlyn ffliw
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y cyhoedd, yn enwedig plant ifanc, i sicrhau eu bod yn cael brechlyn rhag y ffliw mor fuan â phosib.
Dywed y corff iechyd fod arwyddion fod y ffliw yn lledu, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â meddygfeydd gyda symptomau tebyg i'r ffliw.
Mae profion labordai hefyd wedi cadarnhau achosion o'r firws
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'n hynod o bwysig fod plant dwy a thair oed ynghyd â phobl sydd â phroblemau iechyd hir dymor yn cael y brechlyn.
Dywedodd Dr Richard Roberts, pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Does neb eisiau ffliw adeg y Nadolig, a brechu yw'r ffordd orau i amddiffyn eich hun, ac i atal chi rhag ei roi i eraill.
"Pe bai chi mewn grŵp sy'n gymwys, 'di o ddim yn rhyw hwyr i gael brechlyn ac i amddiffyn eich hun."
Y grwpiau sy'n gymwys am frechlyn yn rhad ac am ddim yw pobl a phroblemau iechyd hir dymor, gan gynnwys asthma, merched beichiog, plant dwy a thair oed, pobl dos 65 oed, gofalwyr a phreswylwyr cartrefi gofal.
Mae'r rhan fwyaf o frechlynnau yn cael eu rhoi yn y feddygfa, ond maen nhw hefyd ar gael mewn nifer o fferyllfeydd cymunedol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019