Gostyngiad yn niferoedd brechlyn y ffliw yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n derbyn brechlyn rhag y ffliw wedi gostwng yng Nghymru, gyda rhybudd gan arbenigwyr meddygol bod y firws yn lledu.
Mae tua 1,000 o bobl eisoes wedi dioddef o effeithiau'r ffliw y gaeaf hwn.
Ond mae canran y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn am ddim wedi gostwng o'i gymharu â'r llynedd.
Mae gwasanaethau iechyd hefyd yn poeni am bobl sydd mewn grwpiau risg penodol.
Mae'r bobl hyn yn gallu gwaethygu ar ôl cael ffliw, a datblygu cyflyron mwy cymhleth fel niwmonia.
Y gaeaf hwn mae 66.9% o bobl 65 neu hŷn yng Nghymru wedi derbyn brechlyn rhag y ffliw.
Yn yr un cyfnod y llynedd y ffigwr oedd 48.7%, gan godi i 50.2% erbyn diwedd y gaeaf.
Er bod y brechlyn yn dal ar gael, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod y ffliw eisoes yn lledaenu.
Un o'r grwpiau risg yw plant ifanc sy'n gallu datblygu problemau anadlu.
Fe gafodd Kalsoom Khairuddin, dwy oed, ei chludo ar frys i Ysbyty Treforys gyda phroblemau anadlu yn ddiweddar.
"Roedd popeth yn iawn tan y gaeaf," meddai ei mam Khaireen.
"Yna fe gafodd hi beswch, ac roeddwn yn poeni go iawn wrth iddi gael problemau anadlu.
"Fe wnaethom alw'r ambiwlans ag aros 10 munud, ond roeddwn yn poeni cymaint fel i ni benderfynu mynd ein hunain ar frys i'r ysbyty."
Dywedodd meddygon wrth Ms Khairuddin fod tiwbiau anadlu ei merch wedi chwyddo, gan wneud anadlu'n anodd. Cafodd driniaeth o steroidau.
"Dwi ddim am gymryd unrhyw risg," meddai. "Byddwch chi ddim am fynd drwy beth ddigwyddodd i ni - ni fyddai'r un rhiant eisiau hynny."
996 o achosion
Mae 69.9% o blant rhwng pedair a 10 oed wedi cael brechlyn mewn 1,295 o ysgolion cynradd.
Mae hynny'n cymharu â 68% o blant rhwng pedair ac wyth oed y llynedd, ynghyd â bron i 42% o'r boblogaeth sy'n iau na 65 oed ac mewn un o'r grwpiau risg.
Y llynedd fe wnaeth 820,000 o bobl dderbyn brechlyn - 25% o boblogaeth Cymru.
Dywedodd meddygon fod y lefelau ffliw yn rhai "cymedrol" ar hyn o bryd, gyda 966 o achosion wedi eu cadarnhau'r gaeaf hwn yng Nghymru.
Mae Dr Jo McCarthy yn ymgynghorydd iechyd cyhoeddus gyda Hywel Dda, ac yn un o'r 100,000 o bobl mae'r bwrdd iechyd wedi eu brechu.
"Hwn yw'r unig fodd effeithiol i rwystro'r firws rhag lledu," meddai.
"Mae'r brechlyn yn fy niogelu i, ond hefyd y bobl o'm cwmpas - fy nheulu, cyfeillion, cymdogion a chleifion."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud eu bod hefyd yn awyddus i gywiro'r camargraff sydd gan rai.
"Bydd y brechiad ddim yn rhoi'r ffliw i'ch plant, ond fe fydd rhai yn cael mân is-effeithiau, gan gynnwys trwyn yn rhedeg," meddai llefarydd.
Fel rheol mae'r firws sy'n achosi'r ffliw yn newid bob blwyddyn, ac mae'r brechlyn yn cynnig amddiffyniad am y tymor cyfredol yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018