'Esboniad rhesymol' posib pam fu farw cannoedd o adar

  • Cyhoeddwyd
AdarFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna amheuaeth fod yr adar wedi marw brynhawn dydd Mawrth am o gwmpas 15:40

Mae swyddogion heddlu sy'n ymchwilio wedi i gannoedd o adar gael eu canfod yn farw ar lôn gefn yn Ynys Môn yn dweud bod yr un peth wedi digwydd yn yr un fan 12 mlynedd yn ôl.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod yna "esboniad rhesymol" posib ynghylch beth wnaeth achosi i'r drudwy farw ond eu bod ddim yn datgelu mwy nes bydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau.

Cafwyd hyd i tua 225 o ddrudwy ger Lyn Llywenan ger Bodedern fore Mercher - y mwyafrif ar y lôn ei hun a'r gweddill yn y cloddiau bob ochr i'r ffordd.

Dywedodd un tyst bod yr olygfa "fel tasen nhw wedi syrthio'n farw o'r awyr".

"Rydym wedi datblygu esboniad ynglŷn â beth ddigwyddodd, "meddai'r Cwnstabl Dewi Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd wrth BBC Radio 4.

"Mae'n esboniad rhesymol, ond dydyn ni ddim am ddatgelu beth 'dan ni'n meddwl ydy'r esboniad tan fydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion tocsicoleg yn cael eu cynnal ar rai o'r adar

Ychwanegodd bod pobl wedi cysylltu gyda'r tîm "gyda phob math o ddamcaniaethau rhyfedd" ond bod rhai o'r awgrymiadau yn rhai da.

"Mae'n ddiddorol achos pan rydych chi'n ymchwilio i'r ffenomenon yma... mae'n ymddangos bod hyn wedi digwydd lawer o weithiau yn y gorffennol.

"Mae pethau tebyg wedi digwydd yn Yr Eidal, Canada, Gwlad yr Haf ac Efrog Newydd.

"Ond beth sy'n arbennig o ryfedd am yr achos yma ydi bod hi'n ymddangos bod yr union ffenomenon yma wedi digwydd yn yr un fan tua 12 mlynedd yn ôl."

Mae rhai o'r adar wedi cael eu symud ar gyfer cynnal profion tocsicoleg ac archwiliadau post mortem, ac mae'r heddlu'n dweud eu bod yn aros am ganlyniadau'r profion cyn cyhoeddi rhagor o wybodaeth.