Dedfrydu gwraig cyn-fewnwr Cymru, Gareth Cooper am dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-wraig Gareth Cooper, a fu'n fewnwr i Gymru a'r Llewod, wedi cael dedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi ei ohirio, am ei dwyllo o dros £1m.
Roedd Debra Leyshon yn gyfrifol am redeg busnes a sefydlwyd gan Mr Cooper, ond pan aeth y busnes i drafferthion fe gymerodd fenthyciadau heb yn wybod iddo a'i dwyllo.
Arweiniodd hynny at Mr Cooper yn mynd yn fethdalwr, ac fe wnaeth Leyshon gyfadde' i 13 cyhuddiad o dwyll mewn gwrandawiad ddydd Mawrth.
Mewn datganiad i Lys Y Goron Caerdydd ddydd Gwener, dywedodd Mr Cooper: "Fe wnaeth Debra fradychu fy ymddiriedaeth ynddi a pheryglu dyfodol ein plant."
Dywedodd hefyd bod y sefyllfa "wedi bod yn brofiad ofnadwy sydd wedi dinistrio fy ffydd mewn pobl eraill".
Wrth ddedfrydu Leyshon, dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan "bod y golled ariannol yn anfwriadol, roeddech chi'n gobeithio ad-dalu'r benthyciadau.
"Cafodd [yr arian] mo'i ddefnyddio i fyw bywyd moethus, cafodd ei ddefnyddio i gadw'r busnes i fynd."
Fe wnaeth dau ddyn arall hefyd gyfaddef twyllo Mr Cooper - £380,000 yn achos Simon Thomas a £50,000 yn achos Mark Lee,
Cafodd Thomas ddedfryd o 16 mis o garchar wedi ei ohirio, a Lee ddedfryd ohiriedig o naw mis o garchar.
Clywodd y llys yng Nghaerdydd fod Leyshon, 41 oed, wedi rhoi'r argraff fod y busnes cludiant a champfeydd yn "ffynnu", ond ei bod wedi cymryd benthyciadau a morgeisi ychwanegol ar y cartref teuluol a phedwar eiddo arall.
Dywedodd yr erlynydd Roger Griffiths: "Doedd Mr Cooper yn gwybod dim am hyn. Yn Chwefror 2017 fe gafodd ei wneud yn fethdalwr a'i orchymyn i'r llys.
"Fis yn ddiweddarach, cytunwyd ei fod wedi diodde' twyll."
Bu'n rhaid i Mr Cooper, a enillodd 46 cap i Gymru ac a fu ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2005, symud yn ôl i fyw gyda'i rieni a benthyg £120,000 o'u cronfa bensiwn nhw.
Dywedodd ei fod yn "hynod ddiolchgar" am eu cefnogaeth.