Seren Olympaidd wedi'i anafu ar ol i fws daro pont
- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: GALL UN O'R LLUNIAU O ANAF ISOD BERI PRYDER
Mae seren Olympaidd o America sy'n dal y record byd am yr amser cyflymaf yn y ras 400 metr dros y clwydi wedi cadarnhau ei fod yn un o'r rhai gafodd eu hanafu ar ôl i fws daro pont rheilffordd yn Abertawe.
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i'r bws deulawr daro pont ar Stryd Castell-nedd yn y ddinas ychydig cyn 09:40 ddydd Iau.
Fe gafodd wyth person eu hanafu gydag un ddynes yn cael ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gydag anafiadau ac mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Ymysg y rhai eraill gafodd eu hanafu oedd Kevin Young, sy'n astudio cwrs meistri mewn Moesoldeb Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Mr Young yn enwog am ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd 1992 yn Barcelona, ac mae ei amser o 46.78 eiliad yn y ras 400m dros y clwydi yn parhau i fod yn record byd.
Fe wnaeth yr Americanwr hefyd ddod yn bencampwr byd yn y flwyddyn ganlynol.
Fe wnaeth Mr Young roi llun o anaf i'w ben ar Twitter a hefyd fe wnaeth gadarnhau ei fod wedi torri ei asenau yn y digwyddiad.
Mae'r dyn 63 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus wedi'i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu sydd â deunydd fideo allai eu cynorthwyo gyda'i hymchwiliad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan gyfeirio at achos 1900456484.
Mae'r cwmni bysiau First Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad llawn i'r gwrthdrawiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2019