Dod o hyd i syrffiwr barcud oedd ar goll yn fyw

  • Cyhoeddwyd
Christopher GoldsworthyFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christopher Goldsworthy wedi treulio'r nos ar gorstir

Mae dyn oedd ar goll ar ôl bod yn syrffio barcud yn Sir Gâr wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel fore Llun.

Roedd Christopher Goldsworthy, 32 oed, wedi bod ar goll o Draeth Pentywyn ers 17:00 ddydd Sul.

Bu Gwylwyr y Glannau yn chwilio ardal eang wrth geisio dod o hyd iddo.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys i'r dyn dreulio'r noson ar gorstir ger Llansteffan, yna ben bore aeth i dŷ agos a chysylltu â nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn rhybudd ddydd Sul bod Mr Goldsworthy ar goll oddi ar arfordir Pentywyn, Sir Gâr