£340m yn fwy i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
NysiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pob adran yn Llywodraeth Cymru'n gweld cynnydd i'w cyllidebau o fis Ebrill nesaf.

Dyma'r tro cyntaf mewn degawd i hynny ddigwydd, a daw yn sgil £600m ychwanegol i Gymru drwy drefn cyllido fformiwla Barnett.

Er hynny, dywedodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, bod cyllidebau'n parhau'n is na lefelau 2010.

Fel rhan o'r cynlluniau bydd gwariant ar iechyd yn cynyddu, a bydd mwy o arian i gynghorau sir.

Argyfwng hinsawdd

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi datgelu sut maen nhw'n bwriadu gwario £20bn o ddydd i ddydd am y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael tua £340m yn ychwanegol, a bydd arian sydd ar gael i'w wario o fewn llywodraeth leol yn codi £127m i £4.4bn.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gwario 4% yn ychwanegol ar iechyd - 2.68% yn nhermau real.

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys pecyn £140m ar gyfer trafnidiaeth carbon isel a choedwig genedlaethol i Gymru.

Mae'r gyllideb ar gyfer yr iaith Gymraeg yn aros ar yr un lefel - £20.9m.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod hynny'n cyfateb i doriad mewn termau real.

"Does dim modd cyfiawnhau'r toriadau hyn," meddai Tamsin Davies o'r gymdeithas.

"Mae gan y llywodraeth fwy na biliwn o bunnau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly fan leiaf byddai disgwyl i'r llywodraeth gynyddu cyllidebau'r Gymraeg yn unol â chwyddiant."

Mae'r llywodraeth wedi cael cais am sylw i'r sylwadau yma.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o arian yn cael ei roi tuag at fysiau trydan

Bydd gwariant ar dai a llywodraeth leol, sy'n cynnwys cynghorau ac ysgolion, yn cynyddu 3.28% i £3.9bn - 1.33% mewn termau real pan mae codiadau mewn prisiau'n cael eu hystyried.

Bydd yr arian ar gyfer addysg - sy'n cynnwys addysg uwch ac addysg bellach ond nid ysgolion - yn codi 3.7% i £1.56bn, cynnydd mewn termau real o 1.83%.

Mae arian ar gyfer yr amgylchedd, ynni a materion gwledig yn codi ychydig o 2.5% i £216m.

Bydd £29m yn cael ei roi tuag at fysiau a cherbydau sbwriel trydan.

Bydd y cynnydd i gynghorau unigol rhwng 3% yn Sir Fynwy a 5.4% yng Nghasnewydd.

Gall gynghorau ychwanegu at eu cyllidebau gyda refeniw o dreth y cyngor a gwasanaethau eraill.

'Gwyrddach, mwy llewyrchus'

Hon ydy cyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru ers i'r datganiad ar argyfwng yr hinsawdd gael ei gyhoeddi yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru y "bydd yn helpu i greu Cymru wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus".

Yn gynharach eleni fe wnaeth Canghellor Llywodraeth y DU, Sajid Javid, addo £600m ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ei Adolygiad Gwariant.

Pan mae'r canghellor yn rhoi arian ychwanegol i Loegr, mae Cymru hefyd yn elwa drwy fformiwla Barnett.

Ond mewn termau real mae'r cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn is na'r hyn oedd yn 2010.