Nadolig amgen lawen!
- Cyhoeddwyd
Coeden Nadolig binwydd 'go iawn' ynteu yr un ffug blastig o'r atig eto 'leni? Pa opsiwn sy'n addurno'r aelwyd acw tybed?
Er yn yr un hen hwyliau llawen, Nadoligiaidd, y penderfyniad y daeth un teulu o Sir Conwy iddo oedd peidio â chael coeden Nadolig o gwbl...
Mae Tracy Price, ei phlant Ifan a Megan, a phartner Tracy, Bleddyn, wedi dewis mynd amdani mewn ffordd go wahanol dros y Nadolig. Eitem digon cyffredin sydd o gwmpas y cartref pob dydd o'r flwyddyn ydi'r testun trafod yn Nwygyfylchi.
Yn cael gwisg ffansi o oleuadau mân ac addurniadau trawiadol dros gyfnod yr ŵyl mae hen ystol bren.
Mae'r teulu wedi mynd ati i addurno'r ystol fechan yn y ffordd 'arferol' o addurno coeden, ac wedi cael ymateb da iawn gan ffrindiau a theulu i'w dyfeisgarwch a'u dewrder.
Lleihau gwastraff
Meddai Tracy, sy'n athrawes yn y Rhyl: "Roeddan ni'n fwy ymwybodol o stâd y blaned eleni ac eisiau lleihau ein heffaith ni fel teulu drwy beidio â phrynu coeden bob blwyddyn ac wedyn ei thaflu i ffwrdd. Rydan ni'n ceisio gwneud ein rhan a lleihau y bywyd gwastraffus mae pobl yn dueddu i fyw dyddiau yma.
"Rydan ni hefyd yn gwneud y reverse advent calendar lle 'da ni'n rhoi un eitem o fwyd mewn bocs a'i roi i fanc bwyd. Fydd 'na ddim cracers blwyddyn yma chwaith, rydan ni am sgwennu jôc ar bapur a hadau blodau haul fel anrheg i bawb dyfu blwyddyn nesaf. Ond yn defnyddio papur brown i lapio anrhegion a'u addurno hefo paent."
Mae Tracy'n ymwybodol ei bod yn anodd cael syniadau wrth fynd ati i feddwl yn fwy 'gwyrdd' ond mae'n annog pobl i edrych ar y we am ysbrydoliaeth: "Mae Pinterest yn llawn syniadau. Dyma'r tro cyntaf i ni wneud hyn ond fyswn i'n hoffi meddwl ei fod o'n gwneud i bobl ail-feddwl eu dewisiadau a dwi'n siŵr un dydd bydd rhaid i ni gyd wneud newidiadau mawr yn nhermau y buy and throw away society yr ydan ni'n byw ynddo."
"Mae'r plant yn hapus iawn efo'r 'goeden' newydd. Mae Ifan (11 oed) a Megan (9 oed) yn ymuno efo fi bob mis i hel sbwriel hefo criw Pals of Pen Beach ym Mhenmaenawr, maen nhw'n ymwybodol iawn o'r amgylchedd a'r problemau sy'n ein gwynebu.
"Mae pawb yn hoffi syniad yr ystol. Mae'n wahanol iawn ond yn rêl fi!
"Dwi'n siŵr fod 'na lot mwy y gallwn ni wneud i ddilyn bywyd cynaliadwy. Ond mae'n rhaid cychwyn yn rhywle."
Bytholwyrdd yn cael ystyr newydd
Gyda mwy a mwy o bobl yn dewis ffordd mwy amgen o fyw o ddydd i ddydd, mae'n ymddangos bod rhagor o bobl yng Nghymru yn mymryn fwy mentrus efo'r Nadolig eleni hefyd, ac yn fwy parod i wyro oddi wrth y 'traddodiadol'.
Mae Debbie O'Neill o Rostryfan a'i thad Allan Cotton yn cynhyrchu pob math o grefftau gan ddefnyddio broc môr, ond yn arbennig hen bren sydd wedi golchi i'r lan. Eleni mae eu busnes bychan, Debbie a Dad, wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am goed Nadolig amgen a gwahanol.
Meddai Debbie: "Ma' fy nhad a finnau wedi bod yn cynhyrchu crefftau efo'n gilydd ers naw mlynedd rŵan, ac ar gyfer adeg y Nadolig mi rydan ni wedi bod yn cynhyrchu coed Nadolig tua tair troedfedd o uchder sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ac am wn i i bobl eu gosod ar y bwrdd Nadolig, neu ar ben ryw gwpwrdd.
"Ond flwyddyn yma ma' raid bod pobl yn chwilio am alternative i goedan Nadolig traddodiadol achos mi rydan ni wedi cael nifer o geisiadau am goed Nadolig pump a chwech troedfedd o uchder wedi eu gwneud o goed sydd wedi gweld tywydd ac wedi eu golchi fyny ar y traeth.
"Mae dod o hyd i ddigon o goed i neud y gwaith yn gallu bod yn anodd weithia', ond mae o'n deimlad mor dda gallu creu rhywbeth hardd allan o be' fysa yn wastraff neu'n 'neud y traeth yn flêr. Mae Dad a fi yn chwerthin a chael jôc weithia' wrth feddwl bod ni'n troi tamaid o goedan yn goedan unwaith eto!
"Mae o'n grêt bod cymdeithas yn dechrau meddwl yn fwy gwyrdd a chynaliadwy ac yn chwilio am ffyrdd eraill o ddathlu rhywbeth sydd mor draddodiadol. Mae o'n gam reit ddewr, ond dwi'n siŵr ar ôl mentro nad ydi pobl yn sbio'n ôl.
"Unwaith mae'r goleuadau a'r addurniadau ar rai o'r coed ma' nhw'n edrych yn anhygoel!"
Oes gennych chi addurniadau amgen yn eich cartref chi? Anfonwch luniau at cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb