Teyrnged teulu wedi marwolaeth Jordan Davies yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Jordan Davies ddau o blant

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i "fab, brawd a thad cariadus" a fu farw yn Y Barri ddydd Llun.

Bu farw Jordan Davies, 23, ar ôl cael ei drywanu ar Ffordd Holton yn y dref.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Roedd Jordan yn fab, brawd a thad cariadus i ddau o blant ifanc.

"Bydd colled am Jordan gan bawb oedd yn ei 'nabod a'i garu."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd prif stryd Y Barri ar gau am rai oriau nos Lun wedi'r digwyddiad

Mae disgwyl i ddyn 24 oed, Jordan Brown, ymddangos o flaen ynadon yng Nghaerdydd ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o'i lofruddiaeth.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark O'Shea: "Hoffwn ddiolch i bawb eto am geisio helpu mewn digwyddiad hynod o anodd."

Mae'r heddlu'n dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.