Heddlu yn Ysgol Glantaf, Caerdydd wedi neges fygythiol
- Cyhoeddwyd
Bydd presenoldeb heddlu amlwg mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd yn dilyn pryderon am negeseuon sydd wedi eu rhannu ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd Heddlu De Cymru y byddai swyddogion yn Ysgol Glantaf am weddill yr wythnos, yn enwedig ar ddechrau a diwedd y dydd.
Daw ar ôl i sylwadau gael eu hanfon at gyfrif yr ysgol ar Twitter yn crybwyll "llofruddiaeth dorfol yng Nglantaf".
Mae ail neges ynghylch "hit list" hefyd wedi ei rannu.
'Tawelu meddyliau'
Dywedodd yr ysgol: "Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i ddigwyddiad yn ymwneud â sylwadau gafodd eu gwneud ar wefannau cymdeithasol.
"Fe wnaethon ni gysylltu gyda'r heddlu yn syth pan daethom yn ymwybodol ohonynt, ac fel mesur rhagofalus bydd swyddogion yn yr ysgol am weddill yr wythnos i dawelu meddyliau disgyblion, staff a rhieni."
Ychwanegodd y datganiad bod yr ysgol yn parhau ar agor i blant a staff.
Mae'r heddlu'n dweud bod ymchwiliad yn parhau i ddarganfod pwy rannodd y negeseuon.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.