Nyrs yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

  • Cyhoeddwyd
Cerys Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cerys Price wrth y llys ei bod yn credu iddi gael trawiad epileptig ddiwrnod y gwrthdrawiad

Mae nyrs o Fryn-mawr wedi ei chael yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad angheuol.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd i gar Cerys Price groesi ar draws lain ganolog yr A467 ac i'r lôn anghwir, gan daro yn erbyn Vauxhall Astra oedd yn teithio i'r cyfeiraid arall.

Dangosodd profion gwaed fod gan y diffynnydd lefelau eithriadol o uchel o gyffur lladd poen yn ei system.

Clywodd y llys bod yna 1803 microgram o tramadol i bob mililitr o waed y diffynnydd - llawer uwch na'r lefel therapiwtig, sef 400 microgram i bob mililitr o waed.

Bu farw gyrrwr y Vauxhall Astra, Robert Dean, o'i anafiadau, a chafodd teithiwr yng nghar Price anafiadau difrifol.

Penderfynodd y rheithgor fod y nyrs 28 oed hefyd yn euog o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus yn ardal y Tŷ-du ar 1 Gorffennaf 2016.

Robert DeanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Robert Dean, 65 oed, yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad

Dywedodd Kelly Huggins ar ran yr erlyniad fod y feddyginiaeth lladd poen heb gael ei roi ar bresgripsiwn, ond fod Price wedi ei brynu tra ym Mecsico.

"Fel nyrs brofiadol, fe ddylai Cerys Price fod yn gwybod y peryglon o yrru ar ôl cymryd y tabledi hyn, ond fe wnaeth hi benderfynu gwneud hynny beth bynnag," meddai Ms Huggins

"Fe wnaeth ei hymddygiad olygu goblygiadau trasig i yrrwr diniwed, ei chyd deithiwr yn ogystal â hi ei hun.

"Mae ein meddyliau gyda theulu Mr Dean a'i ffrindiau ar yr adeg anodd yma."

Roedd Price wedi dweud wrth y llys ei bod yn credu iddi gael trawiad epileptig ddiwrnod y gwrthdrawiad a'i bod ddim yn derbyn ei fod "mor ddifrifol dan ddylanwad cyffur" nes bod yna effaith ar ei gallu i yrru.

Fe fydd hi yn cael ei dedfrydu ym mis Chwefror.