Amy Dowden: Dawnsio a dod adre' i Gymru dros y 'Dolig

  • Cyhoeddwyd
Amy DowdenFfynhonnell y llun, Amy Dowden / Instagram

Mae'r ddawnswraig broffesiynol, Amy Dowden o Gaerffili, newydd ddod o drwch blewyn i ennill cyfres Strictly Come Dancing gyda'i phartner, Karim Zeroual.

Gyda'r misoedd o waith caled ar y gyfres y tu ôl iddi am eleni, mae Amy yn edrych mlaen i ddod adre' i Gymru dros y Nadolig.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r Gymraes ychydig ddyddiau ar ôl iddi gyrraedd rownd derfynol y gyfres ar BBC1, am y teulu, salwch, Strictly a'r flwyddyn brysur sydd i ddod...

Sut fyddi di'n dathlu'r Nadolig?

Dwi wir yn edrych ymlaen i ddod adre i Gaerffili dros y Nadolig. Mae fy rhieni'n dal i fyw yn y cartre lle ges i fy magu, a bydd y teulu i gyd gyda'i gilydd.

Mae ganddon ni gyd fywydau mor wahanol a mor brysur, y Nadolig yw'r unig adeg mae pawb yn dod at ei gilydd.

Byddwn ni'n mynd allan am bryd o fwyd ar noswyl Nadolig, ond ar ddydd 'Dolig, mae pawb yn aros yn y tŷ gyda'n gilydd yn bwyta cinio neis, eistedd o gwmpas yn chwarae gemau, a mwynhau amser teuluol.

Dwi'n rhedeg academi ddawns yng nghanolbarth Lloegr, gyda fy nyweddi a phartner dawnsio, Ben Jones.

Ro'n i nôl yn dysgu yno yn syth ar ôl Strictly, achos mae gan y plant gystadleuaeth fawr yn Blackpool ddechre Ionawr. Byddai'n syth nôl eto ar ôl y Nadolig, ond mi fydd yn neis cael rhai diwrnodau o ymlacio cyn hynny.

Ydy dy deulu'n ffans o'r gyfres?

Mae fy nheulu wrth eu bodd mod i ar Strictly. Dyna uchafbwynt eu gaeaf nhw. Ar ôl yr holl flynyddoedd o fy ngwylio yn hyfforddi, maen nhw'n browd iawn. Maen nhw'n dod lawr i wylio'r sioe yn y stiwdio, dydyn nhw ddim yn colli yr un wythnos.

Mae fy efaill, Rebecca, yn ddawnswraig hefyd, ac mae'n gweithio fel bydwraig. Mae hi'n dysgu dawnsio hefyd ac yn caru bod yn rhan o'r byd yma.

Sut ddechreuodd dy ddiddordeb mewn dawnsio?

Ro'n i ar wylie yng ngharafán fy nhad-cu yng Nghernyw pan o'n i'n wyth oed, ac mi wnes i gystadlu mewn cystadleuaeth ddawns, ac ennill. A dyna 'ny. Roedd fy rhieni'n mynd â fi i wersi dawnsio o hynny allan, ac yna fe gymerodd dros ein bywydau.

Ro'n i'n dawnsio gyda fy ysgol ddawns lleol yng Nghaerffili, a phan o'n i'n 18 oed, ges i bartner dawns a dechrau teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig a chael gwersi. Ro'n ni'n teithio nôl a mlaen i LA i gael gwersi gyda'r hyfforddwyr gorau.

Dwi wastad wedi caru dawnsio, ac fe wnes i dyfu fyny yn gwylio Strictly, felly roedd yn brofiad swreal iawn i fod yn y ffeinal gyda Anton Du Beke! [Mae Anton Du Beke wedi bod yn dawnsio yn y gyfres bob blwyddyn ers y cychwyn yn 2004.]

Sut ddaeth y cyfle i fod ar Strictly Come Dancing?

Dwi wedi gwneud tair cyfres erbyn hyn, ond fe wnaethon nhw ofyn i fi fynd ar y rhaglen y flwyddyn flaenorol, yn 2016, ond yn anffodus doedd yr amseru ddim yn gweithio allan i fi.

Roedden nhw wedi fy ngweld yn dawnsio mewn cystadleuaeth a gofyn i fi ymuno, ond ro'n i'n paratoi ar gyfer y Pencampwriaeth Prydeinig [British Championships] ar y pryd.

Roedd Ben a fi fod i ennill y flwyddyn honno, felly roedd yn rhaid i fi 'neud penderfyniad anodda' fy mywyd.

Penderfynais i ddilyn fy nghalon, roedd yn rhywbeth roeddwn i a fy mhartner wedi breuddwydio amdano a hyfforddi mor galed tuag ato. Fe wnaethon ni ennill, ni oedd pencampwyr Prydain y flwyddyn honno am ddawnsio Latin a Ballroom.

O'n i'n lwcus iawn felly bod Strictly wedi dod nôl ata i y flwyddyn ganlynol a gofyn i mi ymuno eto, achos dyma fy swydd ddelfrydol. Mae'n gyfle enfawr a dwi wedi bod yn breuddwydio amdani ers o'n i'n blentyn.

Disgrifiad o’r llun,

Amy gyda Karim ar Strictly Come Dancing eleni, yn byw ei breuddwyd

Rwyt ti wedi siarad am ddioddef o Glefyd Crohn eleni. Sut mae'r salwch wedi effeithio ar dy fywyd, a dy waith fel dawnswraig?

Ro'n i'n yr ysbyty am chwech wythnos pan o'n i'n 19 oed, oherwydd y cyflwr.

Rwy'n gwybod sut mae'n teimlo i gael dawnsio bron wedi'i gymryd oddi wrtha i. Roeddwn i wedyn yn fwy penderfynol bod y salwch ddim yn mynd i fy rhwystro.

Ro'n i dal am ddilyn fy mreuddwyd a doedd y salwch ddim yn mynd i fy niffinio i. Dwi'n adnabod y symptomau ac yn ceisio ei gadw o dan reolaeth.

Dwi'n trio annog pobl ifanc sy'n diodde' i beidio rhoi fyny na gadael y salwch i'w diffinio.

Sut wyt ti'n delio gydag enwogrwydd ers bod yn rhan o un o raglenni mwya' poblogaidd y BBC?

Mae'n rhaid jyst delio gyda'r peth. Dawnsio ydy fy mywyd, dwi'n caru hyfforddi a pherfformio felly i fi dwi'n neud beth dwi'n ei garu fwya'. Dwi ddim yn meddwl am ddim byd arall.

Dwi'n teimlo mor lwcus i fod yn gweithio fel rhan o dîm, gyda'r gorau o'r goreuon yn y maes, yn gwneud y swydd dwi wastad wedi breuddwydio amdani. Byswn i ddim eisiau 'neud dim byd yn wahanol.

Ffynhonnell y llun, Amy Dowden / Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Amy gyda'i dyweddi Ben - mae'r ddau yn priodi flwyddyn nesa'

Beth sy' ar y gweill yn y flwyddyn newydd?

Dwi'n mynd ar daith Strictly Come Dancing gyda Karim ac yna bydda i ar daith fy hun, o gwmpas theatrau Cymru, gyda fy mhartner Ben a Colin Jackson. Byddai hefyd yn mynd ar deithiau Cruise Strictly.

Dwi a Ben yn priodi haf nesa', felly mae 2020 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr!

Hefyd o ddiddordeb: