Cymraes I'm a Celebrity, Strictly a The Jump...
- Cyhoeddwyd
Mae Leah Peregrine-Lewis o Gwm Gwendraeth yn gweithio fel cynhyrchydd talent ac yn dethol y sêr sy'n ymddangos ar rai o raglenni mawr y teledu.
Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda'r selebs sydd wedi eu dewis i fynd i'r jyngl yn Awstralia ar gyfer cyfres ITV1, I'm a Celebrity Get Me Out of Here, sy'n dechrau ar 17 Tachwedd. Mae hefyd wedi gweithio ar Strictly Come Dancing, The Jump, Loose Women a mwy.
Mae Leah yn disgrifio pam ei bod hi wrth ei bodd yn byw a bod ym myd y sêr yn Llundain:
Sut ddechreuodd dy yrfa di yn y cyfryngau yn Llundain?
Fe ddes i Lundain ar ôl graddio mewn Drama o brifysgol Exeter 10 mlynedd yn ôl, gyda dim byd mwy na'r syniad 'fi'n ffansio mynd i Lundain i weithio'. O'n i wedi dychmygu gweithio yn y cyfryngau, ond doedd dim cysylltiadau 'da fi yn Llundain o gwbl, o'n i ddim yn 'nabod neb yma.
Tyfes i lan yn ardal Cefneithin, Cwm Gwendraeth. Es i i Ysgol Maes yr Yrfa, yn cymryd rhan mewn eisteddfodau, yn canu yn y côr, bydden i ddim wedi dychmygu cael gwaith fel hyn, bryd hynny,
Pan ddes i Lundain doedd dim cliw 'da fi bod y rôl dwi'n 'neud nawr, hyd yn oed yn bodoli. Dechreues i weithio fel runner ar raglenni fel Sunday Brunch a The Wright Stuff.
Roedden i'n ymchwilio i bwy fyddai'r talent fyddai'n dod ar y rhaglenni. O'n i'n gweld hynny'n ddiddorol, ac o'n i methu credu bod hyn yn job!
Fy swydd gyntaf fel Celebrity Booker oedd ar y sioe ieuenctid ar Channel 4, sef T4, yn trefnu film junckets i'r cyflwynwyr i fynd i gyfweld ag actorion. Wedyn ddechreues i yn llawrydd yn gweithio ar gyfresi fel The Jump a Strictly.
Ar hyn o bryd, rwyt ti'n gweithio ar I'm a Celebrity Get Me Out of Here [sy'n cael ei ffilmio yn y jyngl yn Awstralia.] Disgrifia dy waith ar y gyfres.
Rydyn ni wedi sicrhau 12 o bobl eleni, ac mi fydda' i ac aelodau sy'n y tîm gyda fi yn hedfan mas gyda un seleb yr un, fel chaperone. Mae pawb yn hedfan ar wahân, achos dyw'r sêr sy'n mynd mewn i'r jyngl ddim fod i weld ei gilydd o flaen llaw.
Mi fyddan nhw wedyn ar lockdown, byddai'n cymryd eu ffôn oddi wrthyn nhw, dim ond un galwad mae'n nhw'n cael ei wneud wedyn.
Mae'r gwesty Versace lle ni'n aros wedi dod yn reit enwog erbyn hyn i wylwyr y gyfres, a dyna lle fydda i'n aros. Pan mae'r selebs yn y jyngl, fydda i yn y gwesty, ond mae eu teulu a ffrindiau yn dod allan yna, felly fy ngwaith i ydy edrych ar eu hôl nhw.
Bob tro mae sioe byw arno, ni'n mynd â nhw lawr i'r jyngl, ac os yw'r person sy'n perthyn iddyn nhw yn dod mas o'r jyngl, wedyn bydd diwrnod o press, ond os ddim, mae'r teulu'n gallu mynd nôl i'r gwesty i yfed cocktails!
Mae Ant a Dec [cyflwynwyr y gyfres], yn lot o hwyl ond maen nhw'n gweithio'n galed iawn. Maen nhw'n allweddol i lwyddiant y sioe, ac maen nhw'n dwli ar I'm a Celeb. Maen nhw wir yn hands on, yn ysgrifennu links a thrafod syniadau. Mae nhw hefyd yn ymarfer llwyth a llwyth, er bod y rhaglen yn edrych tamed bach yn improvised pan ti'n gwylio fe, maen nhw'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n 'neud.
Sut brofiad oedd gweithio ar Strictly Come Dancing?
Mae Strictly yn sioe enfawr, er bod e ddim ar y teledu tan mis Medi, ni'n gweithio arno fe bron trwy'r flwyddyn. Ni'n dechre trwy gwrdd â llwyth o bobl. Falle bod gen ti wish list, ond mae'n rhaid i ti gwrdd â'r selebs posib i gyd achos pan ti'n dewis y bobl, mae'n rhaid mynd am gymysgedd, sy'n mynd i weithio'n dda gyda'i gilydd.
Mae'n rhaid i ni 'neud yn siŵr bod y person yn gwybod beth maen nhw'n gadael eu hunain mewn iddo, achos mae'n sioe mor enfawr. Ni'n dweud wrthyn nhw, os maen nhw'n seino lan i Strictly, does dim lot o privacy rhagor.
Mae tîm o tua 700 o bobl yn dod at ei gilydd, yn gweithio'n galed iawn i wneud i'r gyfres fod yn llwyddiannus, mae'n sioe wych i fod yn rhan ohoni.
Ni'n cwrdd â'r selebs ym mis Mehefin ar gyfer fittings y gwisgoedd, y medicals ac yn y blaen. Mae popeth yn dod trwyddo'n tîm ni. Mae pobl yn gofyn, 'gan dy fod ti wedi booko'r selebs, beth ti'n 'neud nawr'? Wel, dyna pryd mae'r gwaith yn dechre go iawn.
Mae pob un cwestiwn sydd ganddyn nhw yn dod ata' i, ac mae popeth sydd angen iddyn nhw wneud o ran y ffilmio, pa fath o wisgoedd bydden nhw'n cael, y miwsig, y ddawns, popeth fel 'na, yn dod trwyddo fi.
Lle bynnag mae'r selebs, fi tu nôl iddyn nhw. Os ydyn nhw ar y set neu'n mynd mas i ffilmio, fi'n rhoi cyngor iddyn nhw, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n iawn, edrych ar eu hôl nhw yn emosiynol hefyd, achos mae beth maen nhw'n 'neud yn eitha' anodd.
Ar noson y rhaglenni byw, fy ngwaith i yw dal dwylo mewn ffordd. Mae'n eitha' terrifying iddyn nhw i fynd mas i ddawnsio o flaen 13 miliwn o bobl sy'n gwylio gartref.
Dy'n nhw ddim yn cofio bywyd fel oedd e rhagor, achos mae nhw mewn rhyw fath o bybl Strictly. Mae pawb sy'n gweithio arno mewn routine bob penwythnos, yn dechre'n gynnar y bore tan yn hwyr y nos.
Pwy yw'r hoff bobl ti wedi gweithio gyda nhw?
Mae pobl yn gofyn yn aml i fi am rhyw fath o sgŵp am y selebs, ond yn gyffredinol mae pawb yn rili neis! Gyda sioeau fel Strictly, The Jump a I'm a Celebrity, ti'n gallu adeiladu ar berthynas gyda nhw. Fy ffefrynnau efallai ydy Rev Richard Coles, Jeremy Vine, Johnny Peacock a Carol Kirkwood.
Mae'n bwysig bod nhw yn gwybod bo' fi'n eu cefnogi nhw a mae'n bwysig ein bod ni'n dod 'mlaen. Dyna rôl celebrity producer, unwaith ti wedi bookio nhw, ti yna fel cefnogaeth iddyn nhw ar gyfer y gyfres.
Faint o ddylanwad sydd gen ti ar y sioeau ti'n gweithio arnyn nhw?
Dwi'n hoffi'r syniad bod gyda fi input i pwy fydd ar y sioeau, y castio. Beth mae I'm a Celebrity yn dda am wneud yw dod â phobl sydd â pherthynas annhebygol at ei gilydd fel Harry Redknapp a Fleur East yn 2018. Fydden nhw byth yn cwrdd â'i gilydd yn y byd go iawn. Fi wir yn lico gweithio ar raglen lle mae'r talent yn hollol allweddol i'r sioe, fel Strictly neu I'm a Celeb, achos mae'n neis i feddwl bo' ti wedi bod yn rhan o rywbeth, o roi'r syniad ymlaen.
Fi wedi cwrdd â phobl ar ddechrau eu gyrfa, fel comedians doedd neb yn gwybod pwy oedden nhw, fel Joel Dommett [yn I'm a Celebrity 2016]. Nawr mae'n 'neud yn dda am ei hunan, ac mae'n neis gweld eu gyrfa nhw yn llwyddo.
Mae siarad â phobl yn naturiol yn gallu bod yn rhan rili pwysig o beth fi'n 'neud, a dyna sut ti'n gweld personoliaeth rhywun. A dyna rhan o roi talent ar y teledu yw bod ti moyn i bobl gatre weld y personoliaeth yna yn dod trwyddo ar y teledu.
Dyw e ddim jyst yn fater a ydy'r person yma yn enwog. Mae'n rhaid iddyn nhw ddod drosodd yn dda ar y teledu, ac os dydyn nhw ddim yn berson neis iawn, mae hynny i'w weld.
Hefyd o ddiddordeb: