Ffigyrau iechyd yn dirywio ymhellach

  • Cyhoeddwyd
ambiwlansus

Fe wnaeth adrannau brys ysbytai Cymru gofnodi eu ffigyrau perfformiad gwaethaf am y trydydd mis yn olynol ar gyfer Tachwedd.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos dirywiad yn amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans, sydd wedi methu cyrraedd eu targed am y tro cyntaf ers i'r meini prawf newydd gael eu cyflwyno yn 2015.

Mae ffigyrau Tachwedd yn dangos fod llai na thri chwarter y cleifion mewn adrannau brys - 74.4% - wedi cael eu trin, eu trosglwyddo neu fynd i mewn i'r ysbyty o fewn pedair awr.

Targed Llywodraeth Cymru yw 95%.

Mae'r ffigwr yn waeth nag ym mis Hydref, sef 75.4%, ac mae 5.7 pwynt canran yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Fe wnaeth 5,890 o gleifion dreulio 12 awr neu fwy mewn adran frys ym mis Tachwedd. Mae'r targed swyddogol yn dweud na ddylai neb dreulio cyhyd mewn adran frys.

Methu am y tro cyntaf

Ond nodwedd bwysig o'r ffigyrau diweddaraf yw amseroedd ymateb ambiwlans i'r galwadau 999 mwyaf difrifol.

Ym mis Tachwedd fe ymatebwyd i 61.4% o'r galwadau hynny o fewn wyth munud.

Dyma'r tro cyntaf i'r targed o 65% gael ei fethu ers i feini prawf newydd gael eu cyflwyno yn Hydref 2015.

Y ffigwr yn Nhachwedd 2018 oedd 72.3%.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Tachwedd oedd "y mis prysuraf erioed" yn ôl Llywodraeth Cymru

'Siomedig'

Wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y mis diwethaf oedd y Tachwedd prysuraf erioed yn ein hadrannau achosion brys.

"Hwn hefyd oedd y mis prysuraf ar gyfer y galwadau 'coch' mwyaf difrifol i'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru. Hoffem ddiolch i staff y GIG a gwasanaethau cymdeithasol sy'n parhau i ddarparu gofal rhagorol yn ystod y cyfnod prysur hwn.

"Mae'n amlwg bod pwysau ar draws y system, gan gynnwys cynnydd mewn achosion o ffliw a norofeirws mewn ysbytai, wedi effeithio ar berfformiad gofal brys y mis hwn ac mae'n siomedig gweld y targed ar gyfer galwadau ambiwlansys coch yn cael ei golli am y tro cyntaf.

"Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn y galwadau, arhosodd yr ymateb cyfartalog yn y categori hwn ar 6 munud a 39 eiliad, ac fe wnaethom gyrraedd 73% o gleifion mewn 10 munud. Yr ydym hefyd wedi gweld gwelliannau mewn amseroedd aros am brofion diagnostig a therapi o'u cymharu â mis Hydref."

'Ffigyrau sy'n ffieiddio'

Roedd yna ymateb chwyrn i'r ystadegau ymhlith y gwrthbleidiau.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns AC: "Os cefais fy mrawychu gan ffigyrau mis diwethaf, mae'r rhain, â bod yn blaen, yn fy ffieiddio...

"Rydym, ar y cyfan, wedi cael dechrau mwyn i'r gaeaf, ers ffigyrau Tachwedd, felly rwy'n ofni meddwl beth fydd ffigyrau Rhagfyr, yn cynnwys cyfnod y Nadolig."

Mae'r ystadegau'n "gywilyddus", medd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

"Newidiodd Llywodraeth Cymru'r ffordd o gofnodi amseroedd ateb y gwasanaeth ambiwlans, yn honedig, i amlygu perfformiad y gwasaneth yn fwy cywir... nawr does dim modd cyrraedd y targedau newydd," dywedodd.