Perfformiad 'gwaethaf erioed' unedau brys ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Adran frys
Disgrifiad o’r llun,

75% o'r cleifion gafodd eu cymryd i'r ysbyty, eu trosglwyddo neu ryddhau o fewn pedair awr - y targed yw 95%.

Mae cyfran uwch o gleifion yn aros yn hirach na ddylen nhw yn adrannau brys ysbytai Cymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae'r ffigyrau'n dangos mai perfformiad amseroedd aros ym mis Medi, o ran cyrraedd y targedau o bedair awr a 12 awr, oedd y gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion.

75% o'r cleifion gafodd eu cymryd i'r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu ryddhau o fewn pedair awr - y targed yw 95%.

Fe dreuliodd 6.2% o'r cleifion, cyfanswm o 5708, fwy nag 12 awr mewn adran ofal brys fis diwethaf - y gyfran uchaf ers dechrau cadw cofnodion - er bod targed i sicrhau bod neb yr gorfod aros mor hir â hynny.

Buddsoddiad y gaeaf

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod y dirywiad mewn perfformiad yn adlewyrchu'r ffaith bod eleni wedi gweld y cyfnod prysuraf erioed i wasanaethau brys, a mis Medi eleni oedd mis Medi prysuraf erioed i adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans.

Mae'r galw uchel sydd fel arfer yn digwydd yn ystod tymor y gaeaf nawr yn "her gydol y flwyddyn", meddai.

Er hynny, cafodd mwy o gleifion eu gweld o fewn y targed pedair awr nag ym mis Medi'r llynedd ac fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans yn well na'i darged am y 48fed mis yn olynol.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "buddsoddi £30m ychwanegol i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gweddill 2019/20, gyda ffocws pendodol ar y gaeaf".

Ymateb y Ceidwadwyr

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd llefarydd iechyd yr wrthblaid, Angela Burns: "Mae'r ffaith fod y ffigyrau'r gwaethaf ers dechrau cofnodi, mae'n amlwg yn dangos fod y llywodraeth yn methu.

"Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymladd yn erbyn y llif i gyrraedd targedau'r llywodraeth heb gael yr offer iawn i wneud eu swyddi.

"Beth sydd wedi fy nharo yw'r nifer oedd yn gorfod aros mwy na 12 awr yn yr uned frys o 1.1% yng Nghaerdydd a'r Fro i 9.6% ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

"Mae'n amlwg mai'r bwrdd iechyd sydd wedi perfformio waethaf yw'r un sydd wedi bod yn gweithredu dan ymyrraeth y llywodraeth ers dros bedair blynedd.

"Mae'r ffigyrau unwaith eto'n dangos fod y llywodraeth dan arweinyddiaeth y blaid Lafur yn methu cleifion drwy Gymru gyfan," meddai.