Busnesau 'yn wag' ar ôl cau lôn wedi tân Bangor
- Cyhoeddwyd

Dywed perchnogion busnes bod angen gwneud hi'n gwbl glir bod y stryd ar agor i gerddwyr
Mae perchnogion busnes ym Mangor wedi mynegi pryder bod rhan o'r Stryd Fawr yn dal ar gau i gerbydau, ddeuddydd wedi tân yno.
Er bod y stryd ar agor i gerddwyr, maen nhw'n dweud bod arwyddion yn creu'r camargraff bod y stryd ar gau yn gyfan gwbl rhwng Cadeirlan Bangor a chyffordd Lôn Pobty, ac mae nifer yr ymwelwyr yn sylweddol is na'r arfer o ganlyniad.
Mae'r sefyllfa hefyd yn ei gwneud hi'n anodd i lorïau gludo nwyddau i'r busnesau.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn gobeithio ailagor y ffordd yn llwyr yn y flwyddyn newydd, a bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch yr adeilad aeth ar dân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddiffodd y tân yn y fflat uwchben bwyty Noodle One yn gynnar ddydd Mawrth.
Chafodd neb anaf, ond mae'r perchennog wedi datgan ar Facebook bod "Noodle One wedi mynd" a bod "eu calonnau wedi torri a'n bywyd wedi newid am byth".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad yn gynnar ddydd Mawrth 17 Rhagfyr
Dywedodd Jo Pott, perchennog Kyffin Café Deli a dwy siop yn yr ardal: "Rydan ni gyd wedi'n llorio oherwydd y tân, ac yn cydymdeimlo â phawb sydd wedi eu heffeithio."
Ond fe ychwanegodd bod y "caffi yn wag" a'i bod yn gwneud llai na chwarter y busnes arferol adeg yma'r flwyddyn.
"Mae'r Stryd Fawr yn stryglo yn barod," meddai Tony Owen, perchennog siop Bed Bargains.
Ychwanegodd bod cryn dipyn yn llai o bobl yn mynd heibio ers y tân.
Mae lorïau hefyd yn gorfod gyrru am yn ôl yn bell i lawr stryd unffordd er mwyn danfon nwyddau i'r busnesau sy'n cael eu heffeithio.

Mae perchnogion Noodle One wedi disgrifio'u gofid bod y busnes ar ben yn dilyn y tân
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn trafod gyda pherchennog yr adeilad "ac o dan ddeddfwriaeth strwythurau peryglus mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch yr adeilad".
"Rydym yn gobeithio bydd y ffordd yn ail-agor yn gyfan gwbl yn fuan yn y flwyddyn newydd.
"Yn y cyfamser, gosodwyd arwyddion o gwmpas y ddinas i roi gwybod am y gwyriadau traffig a bod busnesau'r Stryd Fawr ar agor fel arfer.
"Rhoddwyd mwy o arwyddion fore heddiw ar gais busnesau lleol.
"Rydym yn cydymdeimlo â pherchnogion busnesau cyfagos i'r adeilad ble bu'r tân difrifol, ac yn diolch iddynt am eu hamynedd a'u cydweithrediad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019