Seiont Manor yn canslo cinio Nadolig yn dilyn ffrae tâl staff

  • Cyhoeddwyd
Seiont Manor
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 30 o bobl yn gweithio yng ngwesty Seiont Manor yn Llanrug

Mae cinio Nadolig mewn gwesty moethus yng Ngwynedd wedi'u canslo am nad ydy staff wedi cael eu talu.

Mae Seiont Manor yn Llanrug wedi gorfod canslo cinio ar 25 Rhagfyr oherwydd "diffyg staff yn y gegin".

Wrth i nifer o aelodau staff brotestio tu allan i'r gwesty ddydd Mercher, sicrhaodd rheolwyr y byddai staff yn cael eu talu.

Dywed rhai staff eu bod wedi gorfod defnyddio banciau bwyd wrth aros i gael eu talu ers 7 Rhagfyr.

Dywedodd rheolwr y gwesty, a oedd yn adnabod ei hun fel Michael, fod y gwesty hefyd wedi rhoi'r gorau i gymryd mwy o archebion ar gyfer llety - er eu bod yn anrhydeddu archebion presennol.

Dywedodd er bod rhai staff wedi cael eu talu, doedd y mwyafrif heb - gan gynnwys ei hun - er ei fod yn disgwyl i'r cyflog gael ei dalu yn y pen draw.

'18 heb eu talu'

"Dydy staff ddim yn dod i mewn oherwydd materion cyflog," meddai.

"Yn anffodus oherwydd diffyg staff yn y gegin bu'n rhaid i ni ganslo cinio dydd Nadolig.

"Nid oedd yn benderfyniad a gafodd ei gymryd gennym yn ysgafn. Bydd pawb yn cael ad-daliad o'u blaendaliadau.

Disgrifiad,

'Mae'n warthus': Ymateb rhai o weithwyr Seiont Manor i beidio gael eu talu

"Dydy tua 18 aelod o staff heb gael eu talu. Mae anghytundeb rhwng tenantiaid a landlordiaid. Dydw i ddim yn gwybod y rheswm - 'da ni wedi bod yn gweithio heb dâl ers 7 Rhagfyr.

"Mae'r perchnogion wedi fy sicrhau y byddwn yn cael ein talu.

"Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw archebion pellach ar gyfer ystafelloedd, dim ond ceisio anrhydeddu'r archebion sydd eisoes wedi'u gosod.

"Mae gennym ofal o ddyletswydd i edrych ar ôl y bobl yma, dim ond wyth ystafell sydd wedi'u meddiannu."