Ymchwiliad annibynnol i farwolaeth yn y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu - yr IOPC- wedi dechrau ymchwiliad i farwolaeth dyn 20 oed yn y Drenewydd.

Fe fydd y swyddfa yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Dylan Garbe-Ashton ar ôl i'r heddlu ei stopio mewn gorsaf betrol ychydig cyn hanner nos ar 22 Tachwedd.

Aed ag ef i orsaf yr heddlu yn y Drenewydd lle cafodd ei daro'n wael tua 20 munud yn ddiweddarach.

Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i'r ysbyty lle bu farw'r diwrnod canlynol.

'Digwyddiad trawmatig'

Dywedodd Catrin Evans, cyfarwyddwr Cymru gyda'r IOPC, ei bod am fynegi ei chydymdeimlad gyda theulu Mr Garbe-Ashton.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig i bawb oedd yn gysylltiedig ag ef, ac mae ein swyddogion yn ymchwilio yn galed i ddarganfod beth ddigwyddodd."

Dywedodd y bydd swyddogion yn casglu tystiolaeth camera cylch cyfyng a thystiolaeth o gamerâu fideo oedd yn cael eu gwisgo gan blismyn.

Fe fyddan nhw hefyd yn holi tystion am amgylchiadau'r farwolaeth.

Mae swyddfa'r crwner wedi cael gwybod ac mae archwiliad post mortem wedi ei gynnal.

Dyw union achos y farwolaeth heb gael ei benderfynu, ac mae rhagor o brofion yn cael eu cynnal.