Beth wnes i ei ddysgu ar ôl blwyddyn heb wario?
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau 2019 fe glywon ni am her Catrin Herbert (cyflwynydd podlediad Herbert a Heledd yn achub y byd) i fyw am flwyddyn heb wario. Sut aeth hi?
Gormod o 'stwff'
Ar y 1af o Ionawr 2019 nes i osod her i mi fy hunan i beidio â gwario arian ar bethau diangen am flwyddyn gyfan.
Ro'n i wedi cyrraedd peak-stuff llynedd, ac wedi i mi fyw yn Barcelona am flwyddyn gyda mond cynnwys un cês, ro'n i'n gwybod fy mod i'n gallu byw'n hapus heb gymaint o bethau.
Felly, fy her oedd i geisio peidio â siopa. Dim dillad newydd, colur newydd, dim dyfeisiau electronig na llyfrau newydd am flwyddyn gyfan.
Felly a wnes i lwyddo yn fy her? Do…wel, bron iawn…
Colur, llyfrau a dillad
Dwi wedi llwyddo i beidio prynu colur eleni! Ond, wel, roedd gen i LWYTH oedd angen ei ddefnyddio yn doedd?! Ond ar y 1af o Ionawr, mi fyddai'n rhuthro mas i nôl masgara a phowdwr - dwi wir ar y dregs erbyn hyn.
Dwi heb brynu llyfrau, ac o'r diwedd, dwi wedi darllen rhai o'r rhai oedd yn casglu llwch yn y llofft! Dwi wedi benthyg llyfrau hefyd, a byddai'n prynu ambell un o'r rheini yn y flwyddyn newydd - y rhai ro'n i wir wedi eu mwynhau.
Dwi'n blêsd iawn gyda sut wnes i eleni gyda'r her ond mae'n rhaid i mi gyfaddef, gyda phythefnos o'r flwyddyn i fynd, mi wnes i wario ar ddillad.
Dillad yn fuddsoddiad
Ond ar ôl blwyddyn o beidio prynu dillad (y tro dwetha' i mi brynu dillad oedd dechrau Rhagfyr 2018 felly dwi 'mond yn plygu'r rheolau ychydig) roedd y ffordd es i ati i wario yn hollol wahanol.
Roedd gen i achlysur arbennig iawn, gyda dress code penodol.
Es i i dwrio yn y siopau elusen, ond doedd dim byd oedd yn berffaith i mi, ac os o'n i am brynu unrhyw beth, ac ychwanegu at y cwpwrdd dillad, roedd yn rhaid i'r dillad yma fod yn berffaith.
Nes i LOT o ymchwil cyn i mi brynu'r dillad ac ro'n i'n gwybod y byddai o leia tri achlysur yn y dyfodol agos lle byddai'r siwt yma'n berffaith i'w gwisgo.
Dwi wedi dechrau meddwl am ddillad fel buddsoddiad ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn arbennig i hawlio lle yn fy llofft. Dwi'n teimlo fel fy mod i wedi cael gwared o fy arfer 'prynu byrbwyll' am byth.
Mi wnaeth dileu yr holl apiau siopa a thad-danysgrifo o bob cylchlythyr a rhestr bostio newid mawr. Gydag amser, nes i dorri'r arfer o weld siopa ar-lein a phori gwefannau dillad fel y peth ro'n i'n wneud yn ddifeddwl pan ro'n i wedi diflasu.
Yr amgylchedd ar dop y rhestr
Ar ddechrau'r flwyddyn fy rhesymau dros wneud yr her yma oedd:
newid arferion
arbed arian
rhesymau amgylcheddol.
Mae fy arferion gwario wedi newid, heb os! A dwi'n bendant wedi arbed arian.
Ar ddechrau'r flwyddyn, roedd y rhesymau amgylcheddol yn bwysig - ond ddim mor bwysig i mi â'r lleill. Erbyn hyn, dwi'n meddwl cymaint mwy am y ffordd mae fy newisiadau gwario i'n cael effaith ar yr amgylchedd.
Hapus gyda llai
2019 oedd y flwyddyn nes i amnewid 'eisiau' am 'angen'. Ry'n ni'n byw mewn byd o ormodedd.
Dwi ddim yn dweud fod yn rhaid i ni beidio â chael pethau neis, na'n bod ni ddim yn haeddu treto'n hunain bob hyn a hyn, ond eleni dwi 'di dysgu fy mod i'n berffaith hapus (yn hapusach efallai) gyda llai.
A gan fy mod i (ar ôl blynyddoedd maith o fyw gyda'n rhieni a chynilo) wedi cael fy nhŷ cyntaf - mae'r ethos yma wedi bod yn wych.
Mae gen i'r hyn dwi angen, heb ormod o bethau eraill. Mae'r rhan fwyaf o'r dodrefn yn y tŷ yn ail-law a dwi 'di cael amser gwych yn eu huwchgylchu.
Des i ar draws rheol syml iawn eleni - geiriau'r dylunydd William Morris:
"Have nothing in your house that you do not know to be useful, or believe to be beautiful."
Mae hyn wedi bod yn gyngor gwerthfawr iawn i mi wrth i mi droi fy nhŷ i'n gartref. Yn 2020, dwi'n siwr y byddai'n falch iawn o'r arferion da dwi wedi eu ffurfio eleni. Blwyddyn newydd dda i chi!
Os ydych chi, fel Catrin, am drio gwneud newidiadau i helpu'r blaned ond ddim yn siwr iawn ble na sut i ddechrau - gwrandewch ar bodlediad Herbert a Heledd yn achub y byd ar BBC Sounds lle mae Catrin a'i ffrind Heledd Medi yn ceisio byw yn wyrddach gyda help gwesteion arbennig.
Hefyd o ddiddordeb: