Pobl sydd wedi'n hysbrydoli ni yn 2019

  • Cyhoeddwyd

Gyda blwyddyn gythryblus 2019 yn tynnu i'w therfyn, mae Cymru Fyw yn dathlu'r bobl a'r straeon sydd wedi ein hysbrydoli ni eleni.

Dyma saith gwers rydyn ni wedi ei dysgu gan ein cyfranwyr yn 2019.

1. Dydych chi byth rhy hen

Priodi yn eich 80au

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dai a Winnie yn priodi fis Rhagfyr 2018

Ar ddiwrnod Santes Dwynwen, fe gawson ni stori hyfryd Winnie James wnaeth briodi'n gyfrinachol yn 80 oed gyda'i chymar, Dai, sy'n 86.

Gwraig weddw ifanc gyda thri o blant oedd Winnie pan ofynnodd Dai iddi ei briodi gyntaf. Doedd Winnie ddim yn barod ar y pryd ond roedd yn fwy na pharod yr ail dro!

"Buon ni'n byw gyda'n gilydd am 20 mlynedd a nawr mae wedi dod - Mr a Mrs. Dwi 'run peth a'r cwîn nawr, 'My husband and I!'", meddai Winnie.

Rhedeg marathon yn 80

Pryd ydych chi'n rhy hen i benderfynu cadw'n ffit? Byth, yn ôl Margaret Williams o Hen Golwyn wnaeth droi'n 80 a rhedeg ei 19eg marathon yn 2019.

A hithau dros ei phwysau yn 47 oed, penderfynodd Margaret fod angen i rywbeth newid, a dechreuodd redeg.

Dair blynedd yn ddiweddarach, cwblhaodd ei marathon cyntaf.

Colli pwysau a chodi pwysau yn eich 50au

Ffynhonnell y llun, Anne Collins

Yr un ydy neges ysbrydolgar Anne Collis o Waunarlwydd ger Abertawe a aeth i'w gwers ymarfer corff cyntaf ers blynyddoedd yn 49 oed.

Wedi treulio ei phlentyndod yn brwydro gyda'i phwysau a bwlio, bellach yn ei phumdegau mae Anne wedi cystadlu yn ei chystadleuaeth codi pwysau cyntaf ac mae â'i bryd ar ennill medalau i Gymru yn y gamp.

2. Mae addysg yn arf

Dysgu sol-ffa

Disgrifiad,

Brython, Leusa a Rhyddid yn canu Sol-ffa

Mae Leusa, Rhyddid a Brython yn dysgu sut i ganu Sol-Ffa, y system darllen cerddoriaeth 'do, re, mi' oedd yn arfer bod yn gyffredin iawn mewn ysgolion Sul a chapeli.

Mae eu tad, yr arweinydd corau Trystan Lewis, yn ceisio adfywio'r grefft mewn ysgolion cynradd.

Yn ôl Mr Lewis, mae'n system glyfar sy'n magu clust gerddorol wrth i'r plant ddod i adnabod sain, rhoi enw i'r nodau a gallu clywed ac adnabod y bwlch o un nodyn i'r llall.

Yr ysgol llawn anifeiliaid

Disgrifiad,

Prifathro a disgyblion San Siôr sy'n egluro sut maen nhw'n dysgu drwy ofalu am anifeiliaid

Mae'r ffordd mae plant Ysgol San Siôr, Llandudno, yn cael eu dysgu drwy edrych ar ôl ieir, gwenyn a chameleons a chael cwmni 'ci darllen' yn ysbrydoliaeth.

Yn ogystal â dysgu am fyd natur mae'r plant yn dysgu delio gydag arian drwy redeg busnesau gwerthu mêl, wyau a chatwad (chutney).

3. Daliwch ati

Dysgu Cymraeg ar ei phen ei hun

Disgrifiad,

Fe wnaeth Cymru Fyw gwrdd â Geordan Burress ar ymweliad â Chymru yn ddiweddar

Ym mis Mai, daeth Geordan Burress o Ohio, i Gymru am y tro cyntaf gan wneud argraff fawr am iddi ddysgu siarad Cymraeg ar ei phen ei hun ar y we heb help gan neb arall.

Clywed cerddoriaeth y Super Furry Animals wnaeth ei sbarduno i ddysgu'r iaith, meddai.

"Os mae iaith yn bodoli, mae'n werth ei siarad dwi'n meddwl," meddai Geordan.

Cerdded afon hiraf Asia

Ffynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Yr anturiwr gydag Afon Yangtze tu ôl iddo

Fis Medi daeth Ash Dykes o Fae Colwyn y person cyntaf i deithio hyd yr afon hiraf yn Asia, sef yr Afon Yangtze yn Tsieina.

Doedd hi ddim yn dasg hawdd - fe wynebodd fygythiad gan fleiddiaid ac eirth, tywydd eithafol a unigrwydd. Ond fe ddaliodd ati.

4. Ewch i weld y byd

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Megan Knoyle Lewis ar ei thaith rownd y byd

Rydyn ni wedi cyhoeddi llawer o straeon am Gymry mentrus fel Ash sydd wedi profi nad ydy'r byd mor fawr â hynny wedi'r cyfan.

Wrth nesáu at oed ymddeol, roedd Megan Knoyle Lewis o Sir Gâr yn chwilio am her newydd a daeth y person cyntaf i farchogaeth o amgylch y byd.

Pam ddim?!

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth

Pan ofynnon ni i Pedr Charlesworth pam ei fod wedi penderfynu seiclo dros y byd ar gefn beic mae ei ateb yn werth ei ddyfynnu'n llawn: "Pam ddim mynd o amgylch y byd? Dim jest y lleoedd mawr, ond y lleoedd sydd rhwng y smotiau ar y map.

"Gweld sut mae'r bobl leol go iawn yn byw, byw gyda nhw, ymuno â nhw am baned, cwrw, pryd o fwyd, ramadan, gwasanaethau crefyddol, diwali.

"Gweld sut mae'r tirwedd a'r bobl yn newid yn raddol o fryniau Gwlad Belg i fynyddoedd yr Alpau, o wastatir anialwch Kazakhstan i gopaon uchel yr Himalaya a Hindu Kush. Sgwrsio â phobl o Afghanistan dros y ffin tra'n seiclo yn Tajikistan, a gweld sut beth yw'r sêr yng ngwyllt Awstralia."

Rali Mongolia

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

Am yr un rheswm, fe wnaeth lluniau Rhys Tudor a Garmon Roberts o lefydd rhyfeddol ar lwybr Rali Mongolia, dros 10,000 o filltiroedd drwy wledydd fel Bosnia, Albania, Twrci a Tyrcmenistan ysbrydoli hefyd, a gwneud inni fod eisiau estyn am y pasbort a'r map.

5. A fo ben bid bont

Roedden ni gyd yn caru tîm rygbi Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn Japan ond roedd lle arbennig yn ein calonnau i'r capten cadarn Alun Wyn Jones wnaeth arwain ei wlad i'r rownd gynderfynol ac i Gamp Lawn yn y Chwe Gwlad.

Yn ystod 2019 hefyd, fe enillodd Jones gap rhif 134 dros ei wlad - sy'n record a chael ei goroni yn enillydd Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru y flwyddyn.

5. Carwch eich hunan

Disgrifiad,

Neges Rachel Stephens o Dreherbert am bwysigrwydd hunan hyder.

Fe rannodd Rachel Stephens o Dreherbert y neges am bwysigrwydd hunan hyder a charu eich hunan efo ni.

"Os y'ch chi'n dew, yn denau, yn dal neu'n fyr, os ydych chi'n deall sut chi'n edrych a sut mae pobl yn mynd i edrych arnoch chi, chi'n accepto fe mewn ffordd, dyna rywbeth fi'n credu fi wedi ei wneud... fi'n gwybod fi'n dew, fi'n gwybod fi'n sinsir, fi'n gwybod weithiau dwi'n gwisgo sbectol. Os mae pobl moyn disgrifio fi mewn ffordd cas, problem nhw yw hwnna, nid problem fi.

"Dos dim problem 'da fi, fi'n hapus yn sut dwi'n edrych; fi'n mynd ar wyliau ac yn gwisgo bikinis... does dim diffyg hyder gyda fi mewn bod yn fawr..."

6. Gwneud safiad

Ffynhonnell y llun, Helen Greenwood
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r menywod ddaeth at ei gilydd ar gyfer prosiect celf Gwenllian Llwyd, o'r chwith i'r dde: Enfys Llwyd, Helen Greenwood, Angharad Tomos, Sioned Elin, Ann Rhys, Meinir Francis, Marged Tomos

Fis Ebrill fe gyhoeddon ni lun hanesyddol o aduniad o rai o'r menywod sydd wedi bod i'r carchar ar ôl protestio neu weithredu dros yr iaith Gymraeg.

Roedd y menywod wedi dod at ei gilydd fel rhan o brosiect gan y fyfyrwraig celf Gwenllian Llwyd, sy'n ferch i un o'r cyn brotestwyr sydd yn y llun.

Bu rhai o'r menywod yn siarad am eu profiadau mewn rhaglen ar Radio Cymru fis Awst

7. Dysgwch iaith newydd

Gwersi Japanaeg Takeshi

Disgrifiad o’r llun,

'Kanpai!' sef 'Iechyd da!' mewn Japanaeg

Fe gawson ni athro penigamp a ffrind da i Cymru Fyw yn 2019, sef Takeshi Koike o Japan fu'n dysgu pump ymadrodd mewn Japanaeg inni yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Fe wnaeth Takeshi argraff fawr gyda'i wersi eglur a'i Gymraeg gloyw, a ddysgodd tra'n byw yn Llanbed.

Iaith y brain

Disgrifiad,

Mae Chris yn siarad fersiwn 'chwithig' o'r Gymraeg sy'n cael ei 'nabod fel iaith y brain.

Nôl ym mis Mawrth fe glywson ni gan Chris Davies o Lanfrothen oedd yn gallu siarad mewn iaith arbennig o'r enw iaith y brain.

Oce, efallai na fydd yr iaith yma yn help mawr i gyfathrebu na dysgu am ddiwylliant newydd, ond pam ddim bod yn wahanol? Mae amrywiaeth bob amser yn beth da.

Wedi inni gyhoeddi'r erthygl a'r fideo fe gawson ni fyrdd o negesuon gan bobl eraill sy'n siarad iaith y brain hefyd!

Felly, diolch i wersi iaith Takeshi a Chris, 'Kanpai!' i chi dros yr ŵyl ac 'Adoligna Awenlla' i bawb!

Hefyd o ddiddordeb: