Dedfrydu swyddog carchar am berthynas amhriodol
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog carchar fu mewn perthynas gyda charcharor "peryglus" yng Ngharchar y Berwyn wedi cael ei dedfrydu i flwyddyn o garchar ei hun.
Fe wnaeth Ayshea Gunn, 27 o Johnstown, Wrecsam, nifer o alwadau ffôn - rhai ohonyn nhw gyda iaith rhywiol eglur - gyda Khuram Razaq. Roedd yntau'n treulio dedfryd o 12 mlynedd yn y carchar am gynllwynio i ddwyn.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod nifer o luniau o'r ddau yn cusanu a chofleidio - rhai wedi'u tynnu ar ffôn symudol yng nghell Razaq - wedi eu canfod yn ystafell wely Gunn.
Fe gyfaddefodd Gunn i gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus rhwng Gorffennaf a Thachwedd y llynedd.
'Ymddygiad hunanol'
Roedd hi wedi dechrau gweithio yn y carchar categori C ychydig cyn iddo agor yn Chwefror 2017.
Roedd hi a Razaq wedi gyrru fideos rhywiol i'w gilydd ar ffonau symudol.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth Gunn: "Mae'r achos yma'n ymwneud â thorri ymddiriedaeth, a chi oedd y person oedd yn cael ei ymddiried ynddi.
"Dros gyfnod o rai misoedd, fe wnaethoch chi ddangos ymddygiad hunanol ar raddfa anhygoel."
Cafodd Razaq ei ddedfrydu i wyth mis ychwanegol o garchar wedi iddo bledio'n euog i fod ag oriawr clyfar Garmin a ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar.