Ffordd osgoi Caernarfon 'ar amser' i'w gwblhau yn 2022
- Cyhoeddwyd

Bwriad y ffordd newydd 6 milltir o hyd ydy lleihau tagfeydd drwy Gaernarfon
Mae'r contractwyr sy'n gyfrifol am gynllun ffordd osgoi Caernarfon yn obeithiol y bydd y gwaith wedi ei orffen ar amser, ymhen ychydig dros ddwy flynedd.
Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o adeiladu, dywedodd y dyn sy'n arwain y prosiect £135m ei fod o'n hapus gyda'r gwaith hyd yma.
Mae tua 200 o bobl yn gweithio ar y cynllun ar unrhyw adeg, ac mae'r contractwyr yn dweud eu bod wedi gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio cymaint o weithwyr lleol â phosib.
Mae 93% o'r gweithwyr yn dod o fewn 70 milltir i Gaernarfon, gyda thraean o'r rheini yn dod o'r ardal ei hun.

Dywedodd Hefin Lloyd Davies bod y tywydd wedi bod yn heriol ar adegau
"Mae pethau wedi mynd yn dda iawn," meddai Hefin Lloyd Davies o gwmni Jones Brothers.
"'Da ni'n hapus efo lle 'da ni wedi cyrraedd - yn arbennig o ystyried y tywydd."
Dyma'r cynllun mwyaf erioed yn hanes y cwmni o Ruthun, sy'n gwneud y gwaith ar y cyd â Balfour Beatty ar ran Llywodraeth Cymru.
Bwriad y ffordd newydd 6 milltir o hyd ydy ceisio lleihau tagfeydd drwy Gaernarfon a phentref Bontnewydd.

Mae'r prosiect yn cynnwys nifer o bontydd a llwybrau o dan y ffordd
I Lois Evans o Hen Golwyn, sy'n rheolwr swyddfa ym mhencadlys y prosiect ar gyrion Caernarfon, mae un agwedd o'i gwaith wedi bod yn brofiad newydd.
"Mae'n braf iawn cael cyfle i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd yn fy swydd," meddai.
'Dim gormod o anghyfleustra'
Yn ogystal â'r ffordd ei hun, mae'r prosiect yn cynnwys nifer o bontydd a llwybrau o dan y ffordd, gydag un bont - dros 80 medr o uchder - uwchben gwersyll gwyliau Glan Gwna ger Caeathro.
Mae Mr Davies yn gobeithio na fydd y gwaith yn y flwyddyn i ddod yn amharu'n ormodol ar yrwyr yn ardal Caernarfon.
"Ar adegau bydd angen goleuadau traffig ar y ddau ben i'r ffordd, ond yn gyffredinol, gobeithio bydd 'na ddim gormod o anghyfleustra," meddai.
Y gobaith ydy y bydd y ffordd newydd yn agor yn fuan yn 2022.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019