Y Gynghrair Genedlaethol: Maidenhead 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Dean KeatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm Dean Keates yn parhau yn yr 21ain safle yn y Gynghrair Genedlaethol

Mae Wrecsam yn parhau yn safleoedd y cwymp yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl cael eu trechu oddi cartref yn Maidenhead brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 23 munud, gyda Danny Whitehall yn rhwydo yn dilyn gwaith da gan James Akintunde.

Llwyddodd Maidenhead i ddyblu eu mantais ar ddechrau'r ail hanner wrth i Whitehall sgorio ei ail gôl wedi i golwr Wrecsam, Rob Lainton fethu â chlirio'r bêl o gic gôl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn parhau yn yr 21ain safle yn y Gynghrair Genedlaethol, un pwynt i ffwrdd o ddiogelwch.