Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A5 yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r ddynes wedi'r gwrthdrawiad ar yr A5 ym Mhentrefoelas

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5 yn Sir Conwy nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mai dim ond un cerbyd - Toyota RAV4 arian - oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad ym Mhentrefoelas am tua 21:20.

Ychwanegodd y llu eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.

Dywedon nhw hefyd y dylai unrhyw un a welodd y car yn teithio ar hyd y ffordd cyn y gwrthdrawiad gysylltu â'r llu.