Rhys Webb i ddychwelyd i Gymru ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dychwelyd i Gymru ar ddiwedd y tymor wedi i Toulon gytuno i'w ryddhau yn gynnar o'i gytundeb am "resymau teuluol".

Fe wnaeth Webb, 31, adael y Gweilch yn 2018 i ymuno â'r clwb o Ffrainc, gan olygu nad oedd yn gymwys bellach i chwarae dros Gymru.

Ond does dim cadarnhad eto dros ba glwb y bydd yn ymuno, gyda'r Scarlets, y Gweilch a'r Dreigiau i gyd yn opsiynau.

"Roedd hi'n anodd i mi fod i ffwrdd o fy nheulu a fy mhlant ifanc," meddai Webb wrth gyhoeddi'r penderfyniad i ddychwelyd.

"Rydw i nawr yn benderfynol o roi fy ngorau i Toulon tan ddiwedd y tymor ac yn gobeithio y cawn ni'r buddugoliaethau mae'r clwb yn ei haeddu."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Webb ei fod yn dychwelyd o Ffainc am resymau teuluol

Wrth siarad ddydd Llun cyn cyhoeddiad Toulon dywedodd hyfforddwr olwyr y Gweilch, Matt Sherratt nad oedd ganddo syniad a fyddai Webb yn dychwelyd i'r rhanbarth ai peidio.

"Mae ond yn naturiol ei fod e'n cael ei gysylltu gyda ni - mae Rhys yn gyn-chwaraewr ac mae'n un o'r goreuon yn y byd," meddai.

"Ond dwi ddim wedi clywed unrhyw beth o ran sôn am ailarwyddo Rhys."

Fe wnaeth Webb ennill 31 o gapiau dros Gymru cyn symud i Toulon, ond wedi hynny doedd e ddim yn gymwys i chwarae dros ei wlad oherwydd y polisi newydd oedd yn golygu bod rhaid i unrhyw un oedd yn chwarae tu allan i Gymru fod ag o leiaf 60 cap.