Newid polisi rygbi Cymru yn 'torri calon' Rhys Webb
- Cyhoeddwyd
Mae mewnwr Cymru, Rhys Webb wedi dweud ei fod yn "torri ei galon" ar ôl cael gwybod na fydd yn cael chwarae dros Gymru ar ôl ymuno â Toulon yn Ffrainc.
Wedi newid rheol gan Undeb Rygbi Cymru, ni fydd chwaraewyr sydd â chlybiau'r tu allan i Gymru yn cael chwarae i'r tîm cenedlaethol, oni bai eu bod eisoes wedi ennill 60 o gapiau.
Dywedodd Webb, sydd wedi ennill 28 cap, ei bod hi'n "warth" na chafodd wybod am y newid cyn arwyddo i Toulon.
Ond ychwanegodd na fyddai'n newid ei feddwl, ac y byddai'n symud i Ffrainc yn 2018.
'Mae'n jôc'
Dywedodd y mewnwr 28 oed: "Dydw i ddim yn gwybod pa mor hir fydd hi'n cymryd i ddod dros hyn.
"Mae'n jôc. Dwi wedi siomi. Mae cynrychioli fy ngwlad yn golygu gymaint i mi ac mae cael gwybod na fydda' i'n cael chwarae yn dorcalonnus."
Daeth y cyhoeddiad yn gynharach yn y mis y bydd Webb yn gadael y Gweilch a'i fod wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Toulon.
Ar y pryd, dywedodd y clwb y byddai Webb yn parhau i chwarae i Gymru, ond yr wythnos hon cyhoeddodd URC newid i'r rheol ynglŷn â chwaraewyr clybiau tramor.
Dywedodd Webb: "Fe wnes i arwyddo i Toulon ar yr amod y gallwn i gael fy ystyried i Gymru cyn belled fy mod i'n chwarae yn dda.
"Roedd dal yn benderfyniad mor anodd. Ro'n i'n teimlo bod rhaid siarad gyda'r Gweilch wyneb yn wyneb. Roedd yn dorcalonnus i ddweud wrthyn nhw.
"Dywedodd neb unrhyw beth [am newid polisi]. Nid y Gweilch hyd yn oed pan es i i weld nhw."
Ychwanegodd ei fod wedi trafod y mater gyda hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, a'i fod yntau wedi dweud y "gallai bod system newydd mewn grym", ond heb gadarnhad.
'Methu gwrthod' cynnig Toulon
Mae Webb yn nhymor olaf ei gytundeb deuol, lle mae'r undeb yn talu 60% o'i gyflog, a'r Gweilch yn talu'r gweddill.
Dywedodd bod yr undeb wedi cynnig cytundeb arall iddo, ond nad oedd hynny yn cyrraedd ei ddisgwyliadau.
"Fe wnes i wrando ar gynnig URC ond doeddwn i ddim yn meddwl ei bod nhw'n rhoi'r gwerth iawn arna' i.
"Roedd cynnig Toulon yn un doeddwn i'n methu ei wrthod. Roedd fel gwireddu breuddwyd i chwarae i glwb fel nhw."
Ychwanegodd nad oedd unrhyw un o URC na'r Gweilch wedi trafod y newid rheolau gydag o, a'i fod "yn siomedig iawn gyda rygbi Cymru ar hyn o bryd".
Gwrthododd awgrym y gallai dynnu'n ôl o'i gytundeb gyda Toulon: "Ni fydda' i'n gwneud hynny. Mae fy nyfodol yn Toulon.
"Dwi'n gwybod mai chwarae dros Gymru yw'r rheswm dros chwarae'r gêm.
"Mae cael fy newis i Gymru dal yn freuddwyd ar hyn o bryd. Mae gwybod na fydd hynny'n digwydd yn brifo, mae wir yn fy ypsetio."
Nid oedd Undeb Rygbi Cymru am wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2017