Rhys Webb yn ailymuno â'r Gweilch ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Rhys Webb gyda'i gymar Delyth a'u meibion Regan, 8, Jesse, 4, a Remi, 1Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Webb wedi dweud bod hi'n anodd bod ar wahân i'w deulu wedi iddyn nhw fethu â setlo yn Ffrainc

Mae'r Gweilch wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo mewnwr Cymru, Rhys Webb ar gytundeb dwy flynedd.

Bydd y chwaraewr 31 oed yn gadael Ffrainc ar ddiwedd y tymor yma ar ôl i Toulon gytuno i'w ryddhau o'i gytundeb flwyddyn yn gynnar am resymau teuluol.

Fe adawodd y Gweilch am Toulon wedi 10 mlynedd yn 2018 at gytundeb tair blynedd oedd yn golygu nad oedd yn gymwys i chwarae dros Gymru.

"Mae'n wych i ddod nôl i'r fan y dechreuodd y cyfan i mi," meddai.

"Rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at yr her a brwydro eto i hawlio crys y Gweilch."

Mae eisoes wedi datgan pa mor anodd yw bod ar wahân i'w deulu wedi iddyn nhw ddychwelyd i Gymru ar ôl methu â setlo yn Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dychwelyd i Gymru'n golygu bod Rhys Webb unwaith eto'n gymwys i chwarae dros y tîm cenedlaethol

"Rydw i wedi bod wrth fy modd yn Toulon ond mae'n rhyddhad i ddod adref i'r Gweilch," meddai. "Dyna ble mae fy nheulu, ble ges i fy magu, a ble dechreuodd y cyfan i mi o ran rygbi.

"Mae dychwelyd i chwarae dros fy rhanbarth lleol yn wirioneddol arbennig i mi ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i allu gwneud hynny eto.

"Fel y dywedais i ar y pryd, does neb yn gwrthod Toulon a ro'n i eisiau cael profiad gwahanol.

"Rwy'n ddiolchgar eu bod wedi fy rhyddhau flwyddyn yn gynnar o fy nghytundeb ac rydw i'r un mor gyffrous ynghylch dychwelyd i'r Gweilch ag y roeddwn i ynghylch mynd i Ffrainc."

Webb - sydd wedi ennill 31 o gapiau rhyngwladol - oedd y chwaraewr amlycaf i fod ar ei golled wedi i Undeb Rygbi Cymru newid ei reolau yn 2017, oedd yn golygu bod angen i chwaraewyr fod wedi cael o leiaf 60 o gapiau cyn cael parhau i chwarae i Gymru os ydyn nhw'n ymuno â chlwb tu hwnt i Gymru.